Ymchwilwyr Bangor yn cyfrannu at hyrwyddo strategaeth ymchwil dementia
Bu Dr Gill Windle a'r Athro Emeritws Bob Woods, o ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia, rhan o BIHMR yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, yn rhan o dasglu Cymdeithas Alzheimer yn cynnwys clinigwyr ac ymchwilwyr dementia yn y Deyrnas Unedig, noddwyr ymchwil dementia yn y Deyrnas Unedig, pobl â dementia a chynrychiolwyr gofalwyr, a ddatblygodd y 'map ymchwil dementia cyntaf ar gyfer dulliau atal, rhoi diagnosis, ymyrryd a gofal erbyn 2025'.
Mae'r map ymchwil hwn yn amlinellu nodau ac argymhellion i hyrwyddo ymchwil dementia a chafodd ei gyhoeddi ddoe (21 Chwefror) yn yr International Journal of Geriatric Psychiatry. Cafodd sylw yn y Guardian ac ysgogodd erthygl yn y papur, yn trafod pam 'mae'n rhaid i ymchwil dementia astudio gofal yn ogystal â gwella‘.
Meddai’r Athro Woods, “er bod yn allweddol bwysig ein bod yn chwilio am driniaethau sy'n newid cwrs clefyd Alzheimer a'r gwahanol fathau eraill o dementia, mae'r un mor bwysig bod gennym dystiolaeth gadarn dros driniaethau seicolegol a gwasanaethau gofal i wneud gwahaniaeth i fywydau'r 40,000 o bobl sy'n byw gyda dementia yng Nghymru heddiw. Bydd y map ymchwil hwn yn helpu i sicrhau bod yr uchelgais hwn yn cael ei wireddu mor gyflym â phosib."
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2018