Ymchwil yn dangos sut gall gwelliannau i dai arwain at fanteision iechyd
Yn ôl economegwyr iechyd ym Mhrifysgol Bangor gall tai cynhesach wella iechyd tenantiaid tai cymdeithasol a lleihau defnydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Gan weithio gyda chymdeithas dai Gentoo a Nottingham City Homes, fe wnaeth economegwyr iechyd yng Nghanolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau'r Brifysgol werthuso'r costau a'r canlyniadau'n gysylltiedig â gwelliannau i dai cymdeithasol. Daeth i'r amlwg bod cyswllt rhwng tai cynhesach a gwell iechyd i denantiaid tai cymdeithasol a llai o ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd.
Dangosodd , a gyhoeddwyd yn yr International Journal of Public Health, bod gosod bwyleri newydd effeithlon a ffenestri gwydr dwbl yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd tenantiaid tai cymdeithasol, gan leihau eu defnydd o'r gwasanaeth iechyd a risg tlodi tanwydd.
Fe wnaeth yr Athro Rhiannon Tudor Edwards a Dr Nathan Bray o Brifysgol roi cefnogaeth o safbwynt economeg iechyd i'r project Warm Homes for Health.
Meddai'r Athro Edwards: "Flwyddyn ar ôl cael gwelliannau i'w cartrefi gan Gentoo, dywedodd tenantiaid bod eu hiechyd wedi gwella, eu bod yn defnyddio llai ar wasanaethau cleifion allanol a brys y gwasanaeth iechyd, y gallent dwymo ystafell ychwanegol yn eu cartref a'u bod yn teimlo'n fwy sicr yn ariannol o ran biliau tanwydd."
Ychwanegodd Dr Bray: "Roedd hwn yn grŵp o denantiaid gyda phroblemau salwch a thlodi sylweddol. Fe gawsant nifer o fanteision o bwys ar ôl gwelliannau i wella gwres yn eu cartrefi."
Meddai'r Athro Edwards:
"Mae angen gwneud mwy i sicrhau fod pawb ym Mhrydain yn byw mewn cartref 'iach' sy'n gynnes a heb damprwydd. Gallai'r ymchwil yma ddylanwadu ar gomisiynwyr gofal iechyd, cynghorau a chymdeithasau tai i gydweithio i wella iechyd drwy wella cyflwr cartrefi."
"Mae gwir angen gwella tai ym Mhrydain - amcangyfrifir bod tua 44,000 mwy o farwolaethau'n digwydd yn ystod misoedd oeraf y flwyddyn o'i gymharu â gweddill y flwyddyn. Mae cartrefi oer a thamp yn gwaethygu afiechydon cronig, megis problemau gydag anadlu, gan gyfrannu at y marwolaethau hyn yn y gaeaf y gellir eu hosgoi."
Gwnaed arolwg o dros 470 o denantiaid tai cymdeithasol yn Sunderland cyn gosod bwyleri a ffenestri gwydr dwbl (heb unrhyw gost i'r tenantiaid) gan Gentoo ac yna 12 mis ar ôl eu gosod. Roedd y garfan hon yn ddifreintiedig iawn gyda'r mwyafrif o'r cartrefi gydag incwm o lai na £15,000 y flwyddyn. Ar gyfartaledd, costiodd y gwelliannau £3725 i bob cartref.
Ar ôl i'r gwelliannau hyn gael eu gwneud gwelwyd gostyngiad o £95 y cartref mewn costau defnyddio'r gwasanaeth iechyd, sef gostyngiad o 16% y cartref i gostau'r GIG. Ar gyfartaledd, gostyngodd apwyntiadau cleifion allanol 69% y cartref, yn ogystal â gostyngiad o 46% mewn ymweliadau ag adrannau damweiniau a brys a gostyngiad o 10% mewn ymweliadau i weld meddyg teulu. Amcangyfrifir bod y GIG wedi arbed dros £20,000 mewn chwe mis ar ôl cwblhau'r gwelliannau tai yn achos y garfan hon o 228 o gartrefi yn unig. Gwelwyd hefyd bod iechyd y prif denantiaid wedi gwella'n sylweddol o bron i 8% a bod boddhad ariannol wedi cynyddu 7%. Yn ogystal, gwelwyd gwelliannau bychain o ran hapusrwydd tenantiaid a'u boddhad gyda bywyd ac roedd pryder wedi gostwng rhyw gymaint.
Ar ôl y gwelliannau roedd y rhan fwyaf o gartrefi'n medru cynhesu pob ystafell yn y cartref, tra cynt roedd y rhan fwyaf yn gadael un ystafell yn oer oherwydd costau ynni. Ymhellach, roedd dros draean o gartrefi mwyach ddim yn gwario 10% neu fwy o'u hincwm ar filiau ynni, arwydd amlwg o ostyngiad mewn tlodi tanwydd.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi cyllido myfyriwr PhD, Eira Winrow (CHEME, Prifysgol Bangor) i ymchwilio ymhellach i effaith tai ar iechyd a gwariant y GIG.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2017