Ymchwil rhyngwladol yn datgelu her canser y coluddyn
Mae Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru Prifysgol Bangor wedi bod yn rhan o adolygiad mawr, rhyngwladol o amseroedd triniaeth i bobl â chanser y coluddyn.
Cydweithrediad rhwng gwledydd â systemau gofal iechyd tebyg sy'n meddu ar ddata o ansawdd uchel yw'r (ICBP) a aeth ati i olrhain pob cam yr aeth pobl â chanser y coluddyn trwyddo cyn cael triniaeth. Cydlynwyd yr astudiaeth yn y Deyrnas Unedig gan Cancer Research UK, ac ariannwyd elfen Cymru o'r astudiaeth gan Ymchwil Canser Cymru. Adroddwyd am yr astudiaeth yn . Archwiliwyd holiaduron gan 2,866 o gleifion a'u meddygon yn rhyngwladol, yn ogystal â chofnodion meddygol cleifion a gafodd ddiagnosis rhwng 2013 a 2015.
Drwy gymharu systemau gofal iechyd mewn gwledydd tebyg, gall yr ICBP helpu i nodi gwahaniaethau pwysig er mwyn arwain at welliannau wrth wneud diagnosis o ganser ledled y byd a helpu i achub ychwaneg o fywydau.
Un o'r canfyddiadau oedd ei bod yn cymryd blwyddyn neu ragor rhwng canfod symptom a dechrau triniaeth i 10% o gleifion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Canfuwyd mai dynion a menywod yng Nghymru oedd yn cymryd yr amser hwyaf i gysylltu â'u meddyg ar ôl iddynt sylwi ar symptom iechyd oedd yn peri pryder iddynt (49 diwrnod ar gyfartaledd).
Ar ôl cael diagnosis o ganser, cleifion yng Nghymru oedd yn aros am y cyfnod hwyaf (39 diwrnod ar gyfartaledd) cyn dechrau cemotherapi, radiotherapi neu gael llawdriniaeth - mwy na dwywaith yr amser a gymerai i gleifion yn Nenmarc a Victoria, Awstralia (14 diwrnod).
Yn gyffredinol, roedd cleifion yng Nghymru yn gorfod aros yn hwy na chleifion yn unrhyw ardal arall yn yr astudiaeth rhwng sylwi ar newid a dechrau triniaeth (168 diwrnod ar gyfartaledd).
Roedd hyn yn cymharu â 145 diwrnod yn Lloegr, 138 diwrnod yng Ngogledd Iwerddon a 120 diwrnod yn yr Alban. Denmarc oedd yn perfformio orau gyda'r broses yn cymryd 77 diwrnod ar gyfartaledd.
Meddai'r Athro Clare Wilkinson, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru:
"Er nad yw'r newyddion yn dda, mae'r ffaith ein bod wedi gallu gweithio ar ddata o ansawdd uchel o Gymru wrth wneud yr ymchwil cymharol hwn yn golygu ein bod bellach yn deall yr heriau'n well ac yn gallu gweithio i wella'r sefyllfa.
"Mae mentrau eisoes ar waith yn y GIG i geisio gwella'r sefyllfa."
Grŵp ymchwil ac addysgu sy'n rhan o Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor yw Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru (NWCPCR). Mae'r grŵp yn gwneud ymchwil gofal sylfaenol o ansawdd uchel sy'n cael effaith ar ymarfer clinigol a pholisi iechyd ac mae’n rhan greiddiol o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor.
Dyddiad cyhoeddi: 3 Rhagfyr 2018