Ymchwil Canser yng Nghymru yn elwa o 拢200,000 o flaen Diwrnod Canser y Byd
Mae project ymchwil sydd yn edrych ar sut y mae celloedd canser yn tyfu ac yn rhannu wedi derbyn 拢200,000, diolch i elusen .
Bydd yr arian yn cyllido project ymchwil tair blynedd sydd wedi ei leoli yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin (North West Cancer Research Institute) ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd y project yn edych ar y broses o rannu mewn celloedd canser a sut y gall burum, cynhwysyn sydd yn cael ei ddefnyddio gan y pobydd i godi toes, ein cynorthwyo i ddeall ymddygiad celloedd canser yn well.
Mae鈥檙 elusen wedi clustnodi cyfanswm o 拢199,794. Bydd hyn yn cefnogi recriwtio ymchwilydd 么l-ddoethurol, yn ogystal ag ateb costau deunyddiau ddydd i ddydd ac offer arbenigol ar gyfer y labordy.
Daw'r newyddion cyn Diwrnod Canser Byd-eang (Chwefror 4ydd) ac mae'nn golygu y bydd yr elusen yn gwario dros 拢600,000 yng Nghymru dros y bum mlynedd nesaf.
Fel yr esbonia Dr Rita Cha, Darlithydd Ymchwil NWCR, sydd yn arwain yr ymchwil a leolir yn Ysgol Gwyddorau Meddygol y Brifysgol:
鈥淣odwedd celloedd canser yw鈥檙 modd y maent yn rhannu鈥檔 ddi-reolaeth. Mae cell angen egni i rannu. Mae ymchwil dros yr ugain mlynedd diwethaf wedi dangos bod y rhan fwyaf o gelloedd canser yn cael yr egni drwy dreulio swm mawr o glwcos.
鈥淢ae hyn, proses a elwir yn fetabolaeth cell, yn debyg iawn i鈥檙 modd y mae burum yn ymddwyn yn y broses eplesiad (fermentation).
鈥淏ydd cyllid gan North West Cancer Research yn gwella鈥檔 dealltwriaeth o鈥檙 ffordd y mae burum yn ymddwyn, a byddwn yn ei defnyddio fel model sy鈥檔 dynwared sut y mae celloedd canser yn ymddwyn pan fyddant yn defnyddio glwcos wrth rannu.
鈥淒yma ymchwil ar y lefel fwyaf elfennol 鈥 yr hyn yr ydym fel gwyddonwyr yn ei alw鈥檔 ymchwil mainc - a gyda gwell dealltwriaeth o ymddygiad celloedd canser, gallwn ddarparu sail ar gyfer y camau nesaf ym maes ymchwil canser.
鈥淵n aml, gall pwysigrwydd y math yma o ymchwil gael ei ddiystyru, ond diolch i North West Cancer Research, mae gennym y modd a鈥檙 gefnogaeth i ddatblygu鈥檙 wyddoniaeth sydd y tu 么l i鈥檔 hymchwil.鈥
Meddai Dr Edgar Hartsuiker, sydd yn arwain y Sefydliad yn y Brifysgol:
"Rwy鈥檔 falch bod cais Rita wedi bod yn llwyddiannus. Mae sicrhau cyllid gan NWCR yn broses gystadleuol tu hwnt gyda dim ond y cynigion orau sydd yn cael eu hariannu a thua 80% yn cael eu gwrthod. Mae llwyddiant Rita yn dyst i ansawdd ei hymchwil.鈥
Hyd yma, mae North West Cancer Research wedi ariannu gwerth oddeutu 拢2.5 milliwn o ymchwil ym Mhrifysgol Bangor. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth i ymchwilwyr a myfyrwyr doethurol, yn ogystal 芒 chreu cymrodorion ymchwil, a thrwy hynny, wedi cyfrannu at ddenu rhai o鈥檙 ymchwilwyr rhyngwladol mwyaf blaenllaw yn maes canser i Fangor.
Meddai Dominique Hare, Swyddog Ymchwil, North West Cancer Research: 鈥淢ae Diwrnod Canser y Byd yn gyfle perffaith i ni gyhoeddi ein bod am gefnogi ymchwil canser yng Nghymru gyda 拢200,000 o gyllid ychwanegol.鈥
鈥淏ydd un o bob dau ohonom yn cael ein heffeithio gan ganser ar ryw adeg o鈥檔 bywydau. Diolch i ymchwil, bydd hanner y bobl sy鈥檔 derbyn diagnosis o ganser bellach yn goroesi, sy鈥檔 tystio pam ei bod mor bwysig ein bod yn parhau i ariannu ymchwil blaengar ac effeithiol, sydd yn ceisio ymrafael 芒鈥檙 cynnydd mewn achosion canser yma yng Nghymru.鈥
鈥淔el elusen rydym wedi ymrwymo i gefnogi ymchwil sydd o鈥檙 safon orau un, gan sicrhau鈥檙 gwerth orau am y gefnogaeth yr ydym yn ei ddarparu. Mae hyn ond yn bosibl gyda鈥檙 cymorth a鈥檙 gefnogaeth yr ydym yn ei dderbyn gan ein gwirfoddolwyr a鈥檙 rhai sy鈥檔 codi arian, sydd yn gweithio'n ddiflino i godi miloedd o bunnoedd bob blwyddyn ar gyfer ymchwil canser.
鈥淎r Ddiwrnod Canser y Byd hoffwn ddiolch i鈥檔 rhwydwaith o gefnogwyr ac ymchwilwyr sydd yn ein cynorthwyo i wireddu ymchwil sydd yn achub bywydau. Trwy gydweithio, gallem achub rhagor o fywydau rhag canser yn gynharach.鈥
I ganfod mwy am ewch at
Dyddiad cyhoeddi: 3 Chwefror 2017