Tri yn ennill bwrsariaethau Ehangu Mynediad
Mae cwrs academaidd tri myfyriwr 么l-radd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael dechrau da wrth iddynt ennill bwrsariaeth Ehangu Mynediad gwerth 拢5,000 yr un tuag at eu hastudiaethau.
Mae Gerard Hall, Aaron Andrew John a Lauren Jayne Baskeyfield wedi ennill bwrsariaeth Ehangu Mynediad. Mae'r bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr sydd wedi graddio ym Mhrifysgol Bangor ac sy'n hanu o ardaloedd sydd 芒 nifer isel o bobl yn mynd ymlaen i addysg uwch.
Astudiodd Gerard Hall o Walton, yn Lerpwl, yn ei radd gyntaf ac mae bellach yn astudio am radd meistr mewn. Ar 么l gorffen ei MSc, mae'n gobeithio gweithio ym maes ymchwil niwrowyddoniaeth neu, os daw cyfle, astudio am ddoethuriaeth.
鈥淩wy鈥檔 dod o deulu dosbarth gweithiol, ac mae gan fy rhieni anableddau,鈥 meddai. 鈥淢ae fy nghefndir teuluol yn fy atgoffa nad oes ots os ydych dan anfantais, gallwch gyrraedd eich nod trwy waith caled ac ymroddiad.鈥
Dewisodd astudio ym Mhrifysgol Bangor gan ei fod yn awyddus i symud o鈥檙 ddinas fawr a chael rhyddid i greu ei ffordd o fyw ei hun. Roedd enw da'r Ysgol Seicoleg hefyd wedi ei berswadio i ddewis seicoleg yn hytrach na mathemateg.
Yn ogystal 芒 gweithio鈥檔 rhan-amser, bu Gerard yn gwirfoddoli fel ymchwilydd cynorthwyol yn labordy SOBA (Social Brain in Action) yr Ysgol Seicoleg a dyna a daniodd ei ddiddordeb mewn ymchwil. Bu hefyd yn gynghorydd myfyrwyr rhyngwladol.
Magwyd Aaron Andrew John yn Bircotes, ar gyrion Doncaster, a bu'n ddisgybl mewn ysgolion yn Retford a Doncaster. Ar 么l graddio gyda gradd LLB yn , mae bellach yn astudio am radd LLM mewn yn y brifysgol ac mae鈥檔 gobeithio astudio am ddoethuriaeth wedi hynny.
Yn 么l Aaron, roedd ei addysg yn 鈥済ythryblus a dweud y lleiaf. Treuliais fwy o amser y tu allan i'r dosbarth nac yn y dosbarth. Nid oeddwn yn addysg yn fwy na gorchwyl diflas neu glwb i gymdeithasu 芒'm ffrindiau ynddi. Nid oeddwn yn sylweddoli eu bod nhw'n symud ymlaen tra roeddwn innau'n tangyflawni, yn 么l fy athrawon. Yn y diwedd, penderfynais gymryd yr awenau a newid ysgol a gwnaeth hynny les mawr i'm hagwedd at waith a'm disgyblaeth.
鈥淩oedd Prifysgol Bangor yn ddewis hawdd i mi, ar 么l imi weld y lleoliad, a gweld pa mor groesawgar oedd y staff, ac y byddwn yn astudio mewn grwpiau bychain. Nid wyf wedi difaru fy mhenderfyniad o gwbl鈥 meddai.
鈥淣id yw astudio鈥檙 gyfraith yn hawdd, ond mae鈥檙 buddiannau yn fawr o ran profi pa mor benderfynol ydych. Mae'r balchder rydych yn ei deimlo wrth raddio yn wych. Gweithiais yn ystod fy astudiaethau ac felly roedd cael cydbwysedd rhwng astudiaethau a bywyd cymdeithasol yn holl bwysig i'm gwaith academaidd a鈥檓 lles鈥
鈥淩wy'n falch iawn o gael cefnogaeth gan y brifysgol i astudio am radd Meistr, gan ei fod yn lleddfu'r pwysau ariannol sydd fel arfer ynghlwm wrth astudio am gymhwyster 么l-radd.鈥
Mae Lauren Jayne Baskeyfield, o鈥檙 Rhyl, Sir Ddinbych yn dechrau astudio am radd MSc mewn , ar 么l ennill gradd seicoleg ym Mhrifysgol Bangor.
Ar 么l ennill ei MSc, mae Lauren yn gobeithio gweithio mewn lleoliad clinigol, gyda鈥檙 nod o astudio am ddoethuriaeth a chymhwyso fel seicolegydd clinigol yn y pen draw.
Meddai:
鈥淣i allaf ddechrau dweud pa mor ddiolchgar ydw i am y fwrsariaeth wych yma - mae鈥檔 fy ngalluogi i barhau a鈥檓 hastudiaethau a dod yn nes at wireddu fy mreuddwyd heb bryder nac ansicrwydd ariannol. Bydd yn cael effaith fawr ar fy mhrofiad 么l-radd - rwyf wrth fy modd!鈥
Meddai: 鈥淧an roeddwn yn naw oed, gwelais fy mam yn graddio ym Mhrifysgol Bangor fel myfyrwraig h欧n. Rwy'n cofio'n iawn meddwl pa mor ddel oedd y lle, a phenderfynais y funud honno fy mod eisiau graddio ym Mangor hefyd!鈥
Wynebodd Lauren broblemau iechyd yn ystod ei hamser yn yr ysgol uwchradd, ond wedi hynny, cofrestrodd ar gwrs Mynediad at Addysg Uwch yng Ngholeg Llandrillo, Rhyl, a roddodd hi yn 么l ar y llwybr academaidd tuag at Brifysgol Bangor.
Meddai: 鈥淵n ogystal 芒'm hastudiaethau, mae鈥檙 fwrsariaeth hon yn fy ngalluogi i barhau i arwain Project Hergest Gwirfoddoli Myfyrwyr Bangor - cynllun cyfeillio gwirfoddol yn uned iechyd meddwl Ysbyty Gwynedd, lle rydym yn cynnal gweithgareddau wythnosol ar gyfer y cleifion. Mae鈥檙 project yn cyfoethogi fy mhrofiad yn y brifysgol, ac yn cynyddu fy nghymhelliant i weithio ym maes seicoleg glinigol gymhwysol.鈥
Meddai Delyth Murphy, Pennaeth y Ganolfan Ehangu Mynediad:
鈥淢ae鈥檔 bleser gan y Ganolfan Ehangu Mynediad noddi鈥檙 bwrsariaethau hyn ar gyfer myfyrwyr 么l-radd eto eleni. Mae鈥檙 enillwyr wedi goresgyn anawsterau amrywiol ac mae鈥檔 dda eu gweld yn cael cyfle i barhau 芒鈥檜 hastudiaethau mewn meysydd eithriadol o bwysig. Rwy鈥檔 ffyddiog y bydd y cymorth hwn yn hwb sylweddol i鈥檞 datblygiad proffesiynol ac y bydd yn arwain at yrfaoedd llewyrchus maes o law.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 19 Hydref 2015