Trawsnewid addysg yng Nghymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r angen i recriwtio a dal gafael ar arweinwyr ysbrydoledig er mwyn cyflawni ei chenhadaeth addysgol. O ganlyniad, mae llwybr clir i ddatblygu arweinyddiaeth o arweinwyr canol i benaethiaid gweithredol wedi'i lunio.
Enillodd Prifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Yr Athrofa) y tendr i achredu rhaglenni Arweinyddiaeth y Consortia Cenedlaethol, gydag athrawon yn cael cyfle i ennill achrediad yn amrywio o PGCert i gymhwyster doethuriaeth.
Y rhaglen gyntaf i'w chymeradwyo gan yr Academi Arweinyddiaeth Addysgol Genedlaethol, a gyd-ddilyswyd gan Brifysgol Bangor a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Yr Athrofa), yw'r Penaethiaid Newydd eu Penodi a Dros Dro, gyda'i Diwrnod Datblygu Cenedlaethol cyntaf wedi'i gynnal ar 7 Tachwedd 2018.
https://www.gwegogledd.cymru/index.php/school-leadership/welsh-education-consortia-endorsed-by-new-academy-to-deliver-first-national-school-leadership-programme/?lang=cy
Meddai’r Athro Nichola Callow, Deon y Coleg Gwyddorau Dynol:
"Rydym yn hynod falch bod Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, ynghyd â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Yr Athrofa), wedi bod yn rhan annatod o gyflawni menter Llywodraeth Cymru i arwain gwelliant ac arweinyddiaeth ar draws sector addysg Cymru er budd ein plant. "
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2018