Swydd Athro newydd yn ymgorffori’r gweithio ar y cyd sydd rhwng Prifysgol a Bwrdd Iechyd
Mae Debbie Roberts yn teimlo ei bod mewn sefyllfa dda i gael effaith ar addysg nyrsio, ac i ddylanwadu ar ofal cleifion, wedi iddi dderbyn Cadair Astudiaethau Nyrsio Sylfaenol (Foundation of Nursing Studies/ ) mewn Dysgu Practis (Practice Learning), yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor.
Cefnogir apwyntiad Debbie Roberts i’r swydd unigryw, sydd yn pontio practis clinigol a dysgu, gan y Foundation of Nursing Studies (FoNS). Yn rhinwedd ei phenodiad, mae’r Athro Roberts yn gallu gweithio â myfyrwyr Prifysgol Bangor a chyda nyrsys cymwysedig a phobl broffesiynol eraill o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Ei nod yw ehangu a datblygu awyrgylch ddysgu ar gyfer myfyrwyr nyrsio yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor ac i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus o fewn y GIG ar draws gogledd Cymru.
Meddai’r Athro Debbie Roberts:
“Rwy’n angerddol dros addysgu a dysgu yn maes addysg nyrsio, ac yn awyddus i hybu dysgu ac ymestyn dysgu mewn practis er mwyn gwella gofal iechyd yn y rhanbarth. Mae gen i lawer o ddiddordeb mewn sicrhau ein bod yn cysylltu ymchwil, addysgu a mentergarwch gyda’i gilydd ac yn defnyddio tystiolaeth fel sail i’n addysgu.â€
Ers ei phenodi, mae Debbie wedi datblygu strategaeth ar gyfer dysgu practis sydd yn canolbwyntio ar gefnogi myfyrwyr nyrsio israddedig drwy fentora. Mae hi hefyd yn archwilio sut y gellir defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar erchwyn y gwely, er mwyn ehangu dysgu i’r myfyrwyr a gofal cleifion.
Meddai Dr Theresa Shaw, Prif Weithredwraig FoNS:
“Rwyf wrth fy modd bod y bartneriaeth arloesol hon rhwng FoNS, Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi arwain at benodi yr Athro Roberts i’r swydd gyffrous hon, sy’n cefnogi a hybu dysgu yn y practis. Gyda’r gwerthoedd a’r dyheadau sydd gennym yn gyffredin, i ehangu gofal ac iechyd drwy ragoriaeth mewn addysgu a dysgu, ochr yn ochr gyda gwellhad i’r gwasanaeth, mae’r swydd yn cynnig cyfle i gryfhau amgylchoedd dysgu practis ar draws gogledd Cymru a chynnig dysgu mwy eang drwy iechyd a gofal cymdeithasol.â€
Meddai Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth :
“Rydym yn falch o gael y cyfle i gydweithio gyda’r Athro Roberts. Mae’n hollbwysig i ni ac i’r boblogaeth yr ydym yn ei gwasanaethu ein bod yn cael gweithlu nyrsio talentog sydd wedi ei recriwtio a’i ddatblygu’n lleol. Rydym yn croesawu’r penodiad ac yn ffyddiog y bydd yr Athro Roberts yn gwneud cyfraniad gwerthfawr wrth gynorthwyo datblygiad y genhedlaeth nesaf o nyrsys a bydwragedd gofalgar, talentog a medrus.â€
Meddai’r Athro Chris Burton, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Bangor:
“Rydym wrth ein bodd i gael yr Athro Roberts yn ymuno a’r tîm ac i fod yn gartref i’r penodiad ar y cyd blaengar hwn. Mae amcanion y swydd yn gweddu â’n hamcanion ni yma. Mae gennym yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd draddodiad hir o weithio mewn partneriaeth gyda’r GIG a chyda grwpiau eraill, er mwyn darparu rhaglenni is-raddedig, ôl- raddedig a doethurol sy’n cael effaith ar fyfyrwyr a gwasanaethau fel ei gilydd. Mae ein hymchwil, sydd o safon ryngwladol, ym maes gwella gofal iechyd yn ein galluogi i weithio gyda phartneriaid i fynd i’r afael â heriau gofal iechyd cyfoes.â€
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2017