Staff a Myfyrwyr Seicoleg yn rhedeg Marathon Rock n Roll Lerpwl
Llongyfarchiadau i staff a myfyrwyr o’r Ysgol Seicoleg a gymerodd rhan yn y Marathon Rock n Roll yn Lerpwl yn ddiweddar.
Rhedodd 11 o fyfyrwyr blwyddyn olaf, ynghyd â'r Athro John Parkinson, Pennaeth yr Ysgol, Dr Fran Garrad-Cole, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol a Rhi Willmot, myfyrwraig PhD, y marathon llawn, gyda 4 myfyriwr sy’n astudio’r modiwl arloesol ‘Born to Run' yn yr Ysgol yn cystadlu yn yr hanner marathon.
Mae'r modiwl yn dysgu sut i osod nodau SMART, goresgyn trafferthion a datblygu gwytnwch seicolegol, ac yna mae'r myfyrwyr yn cymhwyso'r damcaniaethau i'r nod heriol o redeg marathon. Mae hyn yn ddipyn o gamp, yn enwedig gan nad oedd y rhan fwyaf o'r myfyrwyr hyn wedi rhedeg ymhellach na 5k cyn dechrau'r modiwl.
Dywedodd Dr Garrad-Cole: "Mae wedi bod yn fraint unwaith eto i ddysgu'r myfyrwyr hyn dros y semester a'u gwylio'n tyfu mewn gallu a hyder ac yn mynd ymlaen i gyflawni rhywbeth nad oedden nhw'n meddwl y byddai'n bosibl. Maent wedi goresgyn heriau, wedi bod tyllu’n ddwfn, ac wedi dod o hyd i gryfder mewnol a fydd, heb os, yn eu gwasanaethu'n dda yn eu bywydau fel graddedigion. Mae John a fi'n falch iawn ohonyn nhw i gyd."
Fideo:
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2019