Sialens y Gymanwlad i Olivia
Mae Olivia Orchart, myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, ar hyn o bryd ym Melbourne, Awstralia, yn cynrychioli T卯m Cymru ym Mhencampwriaethau Cleddyfaeth y Gymanwlad (CFC10).
Bydd Olivia鈥檔 cystadlu yng nghystadlaethau鈥檙 ffoel ac ep茅e ar 30 Medi a 3 Hydref. Mae hi eisoes yn dod i ddygymod 芒 hinsawdd Awstralia.
Meddai Olivia: 鈥淩wy鈥檔 gobeithio cael medal yn y CFC10 a chynnal a gwella ar lwyddiant y llynedd yn y Cystadlaethau Agored Prydeinig.
Mae鈥檔 teimlo鈥檔 wych cael dweud fy mod i鈥檔 cynrychioli Cymru yng nghystadlaethau鈥檙 Gymanwlad. Wedi pedair blynedd o hyfforddiant a gwaith caled i gyrraedd y fan yma, mae wedi bod yn wefreiddiol.
Hoffwn ddweud pa mor wych mae鈥檙 Brifysgol wedi bod efo ariannu a chefnogaeth yn gyffredinol. Dydw i erioed wedi cael dim byd tebyg yn y gorffennol a fyddwn i ddim yma yn Awstralia heb eu cefnogaeth.鈥
Rhoddodd Prifysgol Bangor fwrsariaeth i Olivia i鈥檞 galluogi i fynd i Bencampwriaethau鈥檙 Gymanwlad (29.9- 5.10.10). Mae鈥檙 bwrsari鈥檔 cael ei ariannu gan gyfraniadau gan rhoddwyr elusennol. Yn ogystal, derbyniodd Olivia wobr chwaraeon ucha鈥檙 Brifysgol y llynedd, sy鈥檔 cael ei dyfarnu i鈥檙 chwaraewr neu鈥檙 chwaraewraig mwyaf nodedig ymhlith y myfyrwyr. Mae hi ar fin dechrau pedwaredd blwyddyn cwrs gradd Meistr mewn Bioleg M么r.
Breuddwyd Olivia ar hyn o bryd yw ennill medal yn y gystadleuaeth ffoel yn Awstralia ac yna dychwelyd ymhen pedair blynedd i ennill medal mewn ep茅e. Mae鈥檔 bwriadu parhau gyda chleddyfaeth gydol ei hoes.
Mae Olivia鈥檔 21 oed ac yn dod o Gas-gwent, De Cymru. Ar hyn o bryd mae yn y pumed safle ar hugain ym Mhrydain ac wedi cynrychioli Cymru bedair gwaith yn 2009: yng Nghwpan Excalibur, Cwpan Winton i gystadleuwyr H欧n, Pencampwriaethau Iau鈥檙 Gymanwlad ym Malaysia a th卯m h欧n y 5 Gwlad. Bu鈥檔 gapten y t卯m Ffoel yn Excalibur, roedd yn rhan o D卯m y Merched yng Nghwpan Winton ac enillodd fedal arian ac efydd ym Mhencampwriaethau Iau鈥檙 Gymanwlad. Mae eisoes wedi cynrychioli Cymru yn nh卯m y 5 gwlad eleni.
鈥淢ae鈥檔 fraint cael cefnogi chwaraewraig mor ymroddedig yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol. Mae nifer o鈥檔 rhoddwyr yn dweud eu bod eisio talu rhywbeth yn 么l i鈥檙 Brifysgol a cefnogi myfyrwyr sydd yma ar hyn o bryd. Mae Olivia鈥檔 gwbl haeddiannol ac rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi yn y dyfodol,鈥 meddai Kristen Gallagher, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Alumni.
Mae Olivia wedi cyfrannu鈥檔 fawr at ei chwarae yn y Brifysgol. Enillodd T卯m Cleddyfaeth Prifysgol Bangor bencampwriaethau myfyrwyr Prydain y llynedd. Roedd hi hefyd yn gapten a detholwr ar gyfer t卯m myfyrwyr y pum gwlad yn 2009 a 10.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2010