Sefydliad Ymchwil BIHMR yn cael ei harddangos yn y seremoni wobrwyo gyntaf dan arweiniad ymchwilwyr ECR
Ddydd Iau 3 Hydref 2019 cyflwynodd rhwydwaith Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa ac Ymchwilwyr Profiadol (ECR) Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) eu seremoni wobrwyo gyntaf dan arweiniad ymchwilwyr am gefnogaeth ymchwil, a hynny yng nghynhadledd ECR y Sefydliad, a gynhaliwyd gan yr Ysgol Gwyddorau Iechyd. Rhoddodd y gynhadledd gyfle i ymchwilwyr rwydweithio, datblygu sgiliau ymchwil ac arddangos eu gwaith. Ymunodd staff o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd a rhannau eraill o Goleg y Gwyddorau Dynol â'r ymchwilwyr i fwynhau cinio rhwydweithio a chyflwyniadau poster.
Roedd y wobr dan arweiniad ymchwilwyr am gefnogaeth ymchwil yn ffordd o gydnabod a dangos gwerthfawrogiad o'r gefnogaeth a roddir gan staff yr Ysgol Gwyddorau Iechyd i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac ymchwilwyr profiadol.
Roedd wedi'i fodelu ar y Gwobrau Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr, a gwahoddwyd ymchwilwyr i enwebu aelod staff, gan gynnig enghreifftiau o'r gefnogaeth ac anogaeth ragorol a gawsant. Ystyriwyd yr enwebiadau gan banel o ymchwilwyr, gyda chefnogaeth gan Rob Samuel, trefnydd y Gwobrau Addysgu dan Arweiniad Myfyrwyr. Cyrhaeddodd pedwar aelod o staff y rhestr fer, sef Carys Jones, Julia Hiscock a Siôn Williams, ac enillydd y wobr yn y pendraw, Rhiannon Tudor Edwards. Roedd y pedwar wrth eu bodd yn cyrraedd rhestr fer y wobr gyntaf hon, a dywedodd Rhiannon Tudor Edwards, “Roedd yn syndod ac yn fraint i mi dderbyn y wobr hon. Mae gweld datblygiad a llewyrch ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac ymchwilwyr profiadol yn un o agweddau mwyaf boddhaus swydd academaidd uwch. Rwy’n gredwr mewn mentora deugyfeiriadol - rwyf wedi dysgu llawer gan yr ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa a'r ymchwilwyr profiadol ym Mangor.â€
Ymhlith uchafbwyntiau eraill y dydd oedd prif anerchiad gan Ken Perry o Do-Well (UK) Ltd ar arwain systemau a syndrom ymhonnwr. Cyflwynodd Claire Fewson o gwmni cyhoeddi Wiley ganfyddiadau o safbwynt cyhoeddwr a chawsom syniadau o safbwynt awdur ac adolygydd gan Lorelei Jones o’r Ysgol Gwyddorau Iechyd. Cafwyd hefyd gyfres o sgyrsiau am hanes a phrofiadau gyrfa ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac ymchwilwyr profiadol (Jess Roberts, Ned Hartfiel, Catherine Sharp a Nathan Bray), datblygu a rheoli ymchwil (Alison Wiggett, Saskia Pagella, Neil Harold, Claire Davis) a Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (Paul Brocklehurst). Siaradodd y Dirprwy Is-ganghellor dros Ymchwil, David Thomas am gymhlethdodau gweithio ym maes ymchwil a gwerthfawrogwyd ei gefnogaeth i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac ymchwilwyr profiadol yn fawr.
Roedd y posteri a arddangoswyd dros ginio yn dangos ehangder a dyfnder yr ymchwil a wneir gan ymchwilwyr ar draws y Sefydliad ac ymhlith y pynciau dan sylw roedd allgau cymdeithasol, adferiad yn dilyn torri asgwrn, dementia, iechyd y cyhoedd ac ymwybyddiaeth ofalgar.
Llun: Yr enillydd cyffredinol, yr Athro Rhiannon Tudor Edwards (chwith uchaf) gyda'i chyd-enwebeion.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Hydref 2019