Rhoi cyfle i’r gymuned glywed am yr ymchwil ddiweddaraf i Reoli Cyflyrau Tymor Hir
Mae darlith yn canolbwyntio ar Reoli Cyflyrau Tymor Hir i’w chynnal yn Venue Cymru am 6pm ar 17 Ionawr. Mae’r gyfres o ddarlithoedd yn rhad ac am ddim, ar agor i’r cyhoedd, ac yn cynnwys lluniaeth, cyfleoedd i rwydweithio, a thystysgrif bresenoldeb.
Yn ystod y noson bydd Dr Val Morrison, Uwch Ddarlithydd a Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, a Dr Simon Neal, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol a Dirprwy Bennaeth Seicoleg Iechyd BIPBC, yn rhoi dau gyflwyniad byr. Byddant yn trafod effeithiau afiechyd cronig ar gleifion a gofalwyr a bydd cyfle i ofyn cwestiynau i’r cyflwynwyr a chael adborth.
Hon yw’r drydedd ddarlith yn yr Ail Gyfres o Ddarlithoedd ar Iechyd a Lles, a gynhelir tan fis Mai 2012. Mae’r darlithwyr yn cyflwyno ymchwil flaengar ar bynciau ym meysydd iechyd a lles, a hynny trwy ddull cyfeillgar a hygyrch. Trefnir hwy gan Ganolfan Sgiliau Aber-Bangor, sef partneriaeth rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor, a chyda chefnogaeth Coleg Llandrillo Cymru a’r Asiantaeth Genedlaethol dros Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd (NLIAH).
Er bod y digwyddiadau am ddim, mae cofrestru’n hanfodol er mwyn archebu eich lle. Cofrestrwch trwy gysylltu â Chanolfan Sgiliau Aber-Bangor ym Mhrifysgol Bangor ar 01248 365918 neu absc@bangor.ac.uk neu, am fwy o wybodaeth am y gyfres ddarlithoedd a Chanolfan Sgiliau Aber-Bangor, ewch i’r wefan:
Dyddiad cyhoeddi: 11 Ionawr 2012