Rhannu gwybodaeth er budd iechyd cleifion
Mae’r fenter yn adeiladu ar enw da adran gleifion allanol yr ysbyty am ei gwaith yn datblygu mentrau iechyd cymunedol ac mae myfyrwyr nyrsio o Brifysgol Bangor, ar leoliad yn Nolgellau, yn gweithredu fel 'hyrwyddwyr' dros elusen iechyd o’u dewis ac yn lledaenu'r gair ymhlith cleifion a allai elwa o'r gefnogaeth a'r wybodaeth a ddarperir gan elusennau iechyd.
Gall yr 'hyrwyddwyr elusen' ddarparu cefnogaeth ychwanegol i gleifion mewn lleoliad prysur yn y GIG.
Keith Jones, Darlithydd Gwyddorau Iechyd (Nyrsio Oedolion), sy'n arwain y fenter yn Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Prifysgol Bangor ac meddai:
“Mae cleifion heddiw angen gwybodaeth sydd yn hawdd i’w chael ac yn hawdd i’w deall, fel y gallent wneud penderfyniadau am eu gofal sy’n seiliedig ar wybodaeth. Gall cyfeirio cleifion at wybodaeth ynglÅ·n â sut i reoli eu cyflwr hefyd eu cynorthwyo i deimlo’n iach a theimlo fod ganddynt reolaeth dros eu hiechyd a’u lles.”
“Mae creu strwythur i hyrwyddo elusen sydd yn cefnogi pobl gyda chyflwr iechyd penodol hefyd yn rhoi’r cyfle i’n myfyrwyr ymarfer eu sgiliau cyfathrebu mewn ffordd gadarnhaol.”
Mae’r fenter hefyd yn cyd-fynd â’r elfen iechyd cyhoeddus yn ein gradd nyrsio oedolion ac yn cynyddu dealltwriaeth y myfyrwyr o’r cyflyrau y maent yn eu hyrwyddo a sut maent yn effeithio ar gleifion.
Meddai Anne Thomas, Nyrs Cyfarwyddo, Clinic Allanol Ysbyty Dolgellau, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
“Mae’r myfyrwyr yn cael tair sesiwn dwy awr ar iechyd cymunedol sydd yn cynnwys ein mentrau. Roeddem yn gweld bod cyfle i gefnogi elusennau trwy annog myfyrwyr i ddewis a hyrwyddo elusen benodol. Cafodd y syniad y fath groeso gan y myfyrwyr fel ei fod bellach yn rhan o bob lleoliad yn yr adran gleifion allanol. Ein gobaith yw y bydd y myfyrwyr yn parhau i hyrwyddo eu helusen ar ôl eu hyfforddiant ac y bydd modd annog yr holl fyfyrwyr gofal iechyd i fod yn hyrwyddwyr elusen.
Yn y dyfodol, bydd posibilrwydd datblygu rhwydwaith o hyrwyddwyr elusen yn y Deyrnas Unedig a all ail greu ein gwaith ymestyn allan.”
Mae Heulen Cynfal, myfyrwraig nyrsio, wedi dewis Asthma UK fel ei helusen. Mae wedi bod yn gweithio drwy fodiwlau ar-lein a ddarperir gan yr elusen a bydd y wybodaeth ychwanegol am y cyflwr o ddefnydd iddi.
Mae Heulen wedi dychryn gan y nifer o farwolaethau o achos asthma, sydd yn uwch oherwydd y diffyg gwybodaeth gyffredinol am gymorth cyntaf cychwynnol. Mae hi’n bwriadu cynnal ymgyrch fach ei hun, a dosbarthu taflenni a chodi ymwybyddiaeth ynglÅ·n â sut y gall pobl fod o gymorth pan fydd unigolyn yn cael pwl o asthma.
Meddai Heulen:
"Mae hwn yn syniad mor dda. Rwyf wedi dysgu cymaint gan yr elusen ac rwyf yn wir mwynhau’r modiwlau. Rwy’n ffyddiog y bydd y wybodaeth ychwanegol am asthma o fudd i mi yn ystod fy ngyrfa, yn enwedig mewn adran ddamweiniau. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at godi ymwybyddiaeth am gymorth cyntaf penodol ar gyfer asthma.”
"Byddai’n wych pe bai pob myfyriwr nyrsio yn medru gwneud hyn, fel bod gan nyrsys rywun i’w holi am wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael y tu allan i’r GIG ar gyfer cyflyrau penodol. Gallai wneud gwahaniaeth mawr i'r GIG."
Dewisodd Catrin Dafydd, myfyriwr nyrsio blwyddyn gyntaf, Parkinsons UK fel ei helusen. Rhoddodd gyflwyniad bach ar y ward, gan ddangos i'r staff rai o'r eitemau sydd ar gael gan yr elusen sy'n atgoffa nyrsys o bwysigrwydd rhoi meddyginiaeth ar amser gan gynnwys sticeri ar gyfer nodiadau a bagiau sebon cleifion gyda'r neges arnynt.
Meddai Catrin:
"Mae hyn wir wedi agor fy llygaid i rôl y Trydydd Sector. Yn ogystal â fy elusen fy hun, byddaf yn cyfeirio cleifion at elusennau eraill am gefnogaeth neu gyngor cymheiriaid. Mae'n syniad da iawn"
"Rwy'n credu y dylai pob myfyriwr gael y cyfle gan y gallai wneud gwahaniaeth enfawr i gleifion. Rwy'n hoffi'r syniad o ddewis yn eich blwyddyn gyntaf ac yna cael wythnos o leoliad i wirfoddoli yn y drydedd flwyddyn. Byddai'n sicrhau ein bod yn parhau cefnogi'r elusen trwy gydol ein hyfforddiant."
Byddai annog myfyrwyr nyrsio i hyrwyddo elusen o’u dewis yn codi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth eang o 6,659 sefydliadau trydydd sector yn y Deyrnas Unedig sydd yn ymwneud ag iechyd.
Mae polisïau'r llywodraeth wedi pennu cynlluniau i’r sector gwirfoddol gydweithio gyda’r GIG i geisio datrys anghydraddoldebau iechyd. Mae’r fenter hyrwyddwyr elusennau yn gam tuag at hyn trwy annog myfyrwyr i ddewis a hyrwyddo elusen gyda’r nod o wella gofal iechyd cleifion a chymunedol trwy godi ymwybyddiaeth a chyfeirio cleifion at wybodaeth a chefnogaeth gan gleifion eraill. Gallai creu rhwydwaith o nyrsys sy'n cefnogi elusennau ledled y Deyrnas Unedig fod o fudd i'r GIG, cleifion, cymunedau, elusennau, myfyrwyr a phrifysgolion, heb ofyn am unrhyw arian ychwanegol gan y GIG.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2021