Rhannu gwersi project Celf Dementia
Mae gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd ar draws gogledd Cymru yn mynd i ddysgu o brofiadau’r rhai a fydd yn cymryd rhan mewn project mawr ar Ddementia a’r Dychymyg a arweinir gan Brifysgol Bangor, wrth i’r gweithdy cyntaf o’i fath ddigwydd yn y rhanbarth.
Mae pobl o ardal Rhuthun sydd â dementia wedi cael cyfle i weithio efo artistiaid fel rhan o project ymchwil ar raddfa eang sy’n cael ei gynnal yng ngogledd Cymru, gogledd ddwyrain Lloegr a Swydd Derby. Mae’r ymchwil gynhwysfawr yn mesur i ba raddau y gall celfyddyd helpu pobl â dementia i fyw yn dda ac i barhau mewn cysylltiad â’u cymunedau.
mewn ymchwil gofal dementia yn y Brifysgol sy’n arwain y project ymchwil, gyda chyrff dylanwadol eraill fel Age Watch, Cymdeithas Alzheimer, Cyngor y Celfyddydau a Chyngor Sir Dinbych yn cymryd rhan. Yn y sesiwn sydd i’w chynnal ar 23 Fehefin, bydd gweithwyr proffesiynol ym maes gofal dementia sy’n gweithio gyda gwasanaethau i bobl â dementia neu’n eu trefnu yn cael profiad uniongyrchol o’r gweithgareddau sydd wedi’u cynnig mewn cartrefi gofal, safleoedd GIG a lleoliadau cymunedol fel rhan o’r ymchwil.
Meddai Teri Howson, ymchwilydd o Brifysgol Bangor, “Mae’r digwyddiad yn dod a phobl sy’n cefnogi unigolion â problemau cof at ei gilydd, i roi cyfle iddynt weld sut y gallent ddefnyddio’r gweithgareddau ac i drafod sut i rannu’r dysgu a’r adnoddau i wella gwasanaethau i’r dyfodol.â€
“Ein bwriad fel ymchwilwyr yw cysylltu ag amrediad o fudiadau ac unigolion sy’n cynorthwyo pobl i fyw yn dda â dementia ac edrych ar sut y gallent ddechrau defnyddio celfyddyd yn eu cymunedau.â€
Mae’r Gweithdy wedi derbyn cyllid gan Raglen Connected Communities, sydd wrthi’n creu mentrau grymus ar y cyd, rhwng ymchwilwyr a chymunedau, er mwyn dod i ddeall yn benodol, trwy ymchwil, y newid yn y rhan y gall cymunedau ei chwarae wrth gynnal a gwella ansawdd bywyd a fydd yn creu gwaddol gwerthfawr ar gyfer ymchwil yn y dyfodol ac i’r cymunedau. Arweinir y rhaglen gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) mewn partneriaeth â Chynghorau Ymchwil eraill ac amryw o gyrff eraill.
Bob blwyddyn, mae Connected Communities yn cynnal arddangosiad o’i ymchwil, er mwyn i’r cyhoedd ddysgu mwy am brojectau a gweithgareddau cyfredol. Yr haf hwn, mae’r arddangosiad wedi dod ddigwyddiad ar raddfa’r DU, fel rhan o ddathliadau dengmlwyddiant yr AHRC, gyda chyfres o ddigwyddiadau i’w cynnal rhwng 15 a 19 Mehefin.
Mae digwyddiadau Dementia a’r Dychymyg hefyd yn digwydd yn Newcastle a Manceinion. Am ragor o wybodaeth am ddyddiadau a’r rhaglen, ewch wefan :
Neu i gael gwybod am ddigwyddiadau Connected Communities eraill a gynhelir, ewch i:
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mehefin 2015