Rhaglen arloesol i helpu pobl oedrannus i gael mynediad at ofal arbenigol yn derbyn canmoliaeth uchel mewn wobrau gofal iechyd
Mae rhaglen arloesol sy'n defnyddio technoleg fideo i helpu pobl fregus ac oedrannus mewn cymunedau gwledig i gael mynediad at apwyntiadau gydag ymgynghorwyr wedi derbyn canmoliaeth uchel mewn seremoni wobrwyo genedlaethol.
Roedd prosiect CARTREF Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n defnyddio technoleg fideo i gysylltu meddygfeydd meddygon teulu gwledig ag ymgynghorwyr yn Ysbyty Gwynedd ar restr fer Gwobrau Gofal Iechyd 2016 'HSJ Value'.
Mae'r prosiect yn defnyddio telefeddygaeth - defnyddio dyfeisiadau pell i gysylltu clinigwyr a chleifion - i alluogi cleifion yn Ysbyty Alltwen ger Porthmadog, Ysbyty Dolgellau ac Ysbyty Bryn Beryl ger Pwllheli i ymgynghori â meddygon ym Mangor.
Mae'r cynllun yn galluogi cleifion i gael mynediad at arweiniad arbeingol mor agos i'w cartref â phosibl, gan leihau amserau teithio ac aros yn y broses.
Ers ei lansio ym Medi 2013, mae cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth wedi arbed cyfartaledd o fwy na 60 milltir o deithio drwy ddefnyddio'r apwyntiadau clyweled.
Mae'r seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd ar 24 Mai ym Manchester Central, yn cydnabod esiamplau o effeithiolrwydd eithriadol a gwelliannau yn y GIG.
Dywedodd Dr Chris Subbe, Ymgynghorydd yn BIPBC ac Uwch Ddarlithydd Clinigol mewn Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol Bangor: "Bu'n brosiect cyffrous iawn, ac yn ffordd wych i gysylltu cleifion sy'n byw mewn ardaloedd gwledig ag ymgynghorwyr.
"Rydym wedi rhoi'r claf wrth wraidd y prosiect, sef un o brif egwyddorion y prosiect - ni yn mynd atyn nhw yn hytrach na'r gwrthwyneb, drwy ddefnyddio technoleg fodern."
Mae'r rhaglen wedi bod yn hynod boblogaidd ymysg cleifion, roedd 82% ohonynt yn credu bod y gwasanaeth un ai'n ardderchog neu'n dda iawn, ac roedd 86% ohonynt yn argymell apwyntiadau clyweled i ffrindau neu deulu.
Meddai Miriam Williams, Nyrs Staff sy'n gweithio ym Mangor: "Roedd cleifion yn eithaf nerfus ar y dechrau wrth i ni esbonio byddant yn gweld y meddyg drwy gyswllt fideo, ond wedi i'r sgwrs ddechrau, roeddent yn ymlacio ac yn anghofio bod y meddyg ar y sgrîn.
"Mae gennym hefyd swyddog cynhwysiad digidol yn gweithio gyda chleifion a staff i'w cynefino gyda'r dechnoleg.
Mae rhai o'r esiamplau sy'n sefyll allan yn cynnwys un claf yn cael ymgynghoriad ynghylch clefyd resbiradol cronig. Roedd hi mor gyffyrddus yn ei hymgyngoriad fideo cyntaf, dechreuodd holi gwestiynau ynghylch diwedd bywyd. Hefyd cawsom glaf 104 mlwydd oed nad oedd yn poeni dim o gwbl am y dechnoleg newydd."
Dywedodd Dr Olwen Williams, meddyg ymgynghorol sy'n arwain prosiect CARTREF: "Mae hwn yn brosiect anhygoel. Mae pawb fu'n gysylltiedig, boed yn ddefnyddiwr gwasanaeth neu ofalwr wedi dweud mai hwn yw'r ffordd ymlaen i alluogi pobl i dderbyn gofal yn agosach i'r cartref, drwy ddefnyddio technoleg fodern, hefyd i fod yn gyfeillgar i'r amgylchedd."
"Rydym wedi cael adborth ardderchog gan gleifion sydd wedi defnyddio'r prosiect hyd yn hyn, gyda thros 83% yn dweud y byddent yn argymell ymgynghoriadau rhithwir i'w teuluoedd a'u ffrindiau.
Mae tîm CARTREF hefyd yn cynllunio i gynyddu mynediad i gleifion drwy hwb rhithwir, a fyddai'n cysylltu cartrefi nyrsio mewn mannau gwledig a'u meddygfeydd meddyg teulu agosaf ac unedau asesiad yn yr ysbyty ym Mangor. Byddai'r gwasanaeth estynedig yn lleihau amserau teithio ymhellach i gleifion ac osgoi derbyniadau diangen i ysbytai.
Ariannwyd y prosiect drwy Gronfa Technoleg Iechyd Llywodraeth Cymru, buddsoddiad mewn technoleg newydd a teleiechyd i wella gofal cleifion.
Mae'r prosiect yn ffurfio rhan o Raglen Ysbytai'r Dyfodol Coleg Brenhinol y Meddygon, sy'n edrych ar sut i arloesi gofal meddygol, mewn ysbytai ac yn y gymuned. Mae Ysbyty Gwynedd yn un o bedwar safle datblygu Rhaglen Ysbyty'r Dyfodol yn y DU.
Meddai Dr Anita Donley, Is-lywydd Clinigol yng Ngholeg Brenhinol y Meddygon: "Mae'r Rhaglen Ysbyty'r Dyfodol, Coleg Brenhinol y Meddygon wedi bod yn gweithio gyda thîm Betsi Cadwaladr ers 2014 fel un o'n pedwar Safle Datblygu Ysbyty'r Dyfodol cyntaf.
Mae sefydlu clinigau rhithwir mewn ysbytai cymuned yn gyflawniad nodedig a gefnogir gan sgoriau profiad cleifion cadarnhaol. Rydym yn falch iawn o'r ffocws ar les staff drwy gydol y prosiect."
Dyddiad cyhoeddi: 16 Mehefin 2016