Project Datblygiad Plant i rannu adnoddau dros y byd
Mae arbenigwr mewn datblygiad plant ym Mhrifysgol Bangor yn rhan o lansiad rhyngwladol adnoddau project a fydd o gymorth i lywodraethau dros y byd i gefnogi datblygiad plant iach a llwyddiannus.
Caiff y lansiad ei gynnal yn yr Inter-American Development Bank (IDB) yn Washington DC am 2pm, amser y DU, 29 Medi 2015 ( gyda darllediad byw yn Saesneg a Sbaeneg rhwng 2-4pm ar: yn Saesneg a yn Sbaeneg) i hyrwyddo鈥檙 adnoddau project.
Maes ymchwil Dr Helen Henningham yw ymyriadau plentyndod cynnar er mwyn hyrwyddo datblygiad ac ymddygiad plant mewn gwledydd incwm isel i ganolig. Mae ganddi gysylltiad hir 芒 datblygu cwricwlwm llwyddiannus yn Jamaica, sydd yn cael ei ddyblygu yn rhyngwladol.
Mae鈥檙 pecyn sy鈥檔 cael ei lansio wedi鈥檌 seilio ar Gwricwlwm Ymweliadau Cartref Blynyddoedd Plentyndod Cynnar gan Gr诺p Datblygiad Plant Sefydliad Ymchwil Meddygaeth Drofannol University of the West Indies (lle bu Dr Henningham yn gweithio am gyfnod hir).
Gall sefydliadau a llywodraethau ddefnyddio鈥檙 adnoddau o hyn ymlaen a bydd hynny鈥檔 eu galluogi i gynnal rhaglenni ymweliadau cartref blynyddoedd plentyndod cynnar ar gyfer plant rhwng 6-36 mis yn eu gwledydd eu hunain. Bydd yr adnoddau鈥檔 cael eu defnyddio ym Mrasil, Guatemala a Zimbabwe flwyddyn nesaf, fel rhan o raglen Grand Challenges Canada.
Yn 么l yr IDB, mae 鈥Reach Up and Learn鈥, y rhaglen datblygu blynyddoedd cynnar plentyndod, wedi cael effaith sylweddol ar ganlyniadau addysg a byd gwaith dros yn yr 20 mlynedd ers ei ddechrau yn Jamaica. Mae tystiolaeth helaeth o鈥檙 rhaglen wedi dangos bod plant a gymerodd ran yn y rhaglen dros 20 mlynedd yn 么l 芒 sg么r IQ uwch, wedi llwyddo鈥檔 well yn yr ysgol, wedi mwynhau iechyd meddwl gwell, wedi troseddu llai ac wedi ennill cyflogau uwch na chyfoedion nas cynhwyswyd yn y project.
A hithau鈥檔 aelod o鈥檙 t卯m REACH-UP (bellach yn rhan o , Prifysgol Bangor), mae Dr Henningham ar hyn o bryd yn gweithio ar ddau dreial effeithiolrwydd ymyriadau cynnar (un yng Ngholombia ac un ym Mangladesh) sy鈥檔 ymwneud ag integreiddio rhaglenni ar gyfer rhieni plant o dan dair oed gyda chynlluniau llywodraethol sydd yn bodoli eisoes.
Dyma鈥檙 wefan ar gyfer y pecyn:
Dyddiad cyhoeddi: 29 Medi 2015