Prifysgol Bangor yn Gwobrwyo Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn 2014
Mae Victoria Allen a Joe Barnett wedi鈥檜 henwi鈥檔 enillwyr gwobr Arweinwyr Cyfoed y Flwyddyn 2014 ym Mhrifysgol Bangor, i gydnabod y gefnogaeth wych maent wedi鈥檌 rhoi i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol.
Mae Victoria (21) yn fyfyrwraig Hanes yn yr . Cyn cychwyn ar ei hastudiaethau yn y Brifysgol, mynychodd St Peter's RC High School and Sixth Form Centre yn Gloucester.
Yn gyn-ddisgybl Ysgol Uwchradd Dinbych, mae Joe yn fyfyriwr Gwyddor Chwaraeon yn yr .
Derbyniodd y ddau darian a gwerth 拢50 o docynnau Amazon fel gwobr.
Mae Cynllun Arweinwyr Cyfoed Prifysgol Bangor yn cynorthwyo myfyrwyr newydd wrth iddynt ymaddasu i fywyd prifysgol. Mae鈥檔 eu paru 芒 myfyrwyr sydd eisoes yn y Brifysgol, ac sydd wedi derbyn hyfforddiant arbennig i鈥檞 galluogi i gynorthwyo eu cyd-fyfyrwyr. Gyda mwy na 450 o fyfyrwyr yn cymryd rhan, mae hwn yn un o鈥檙 cynlluniau mwyaf o鈥檌 fath yn y wlad.
Mae鈥檙 Arweinwyr Cyfoed yn helpu鈥檙 myfyrwyr newydd i gymdeithasu, a dysgu eu ffordd o gwmpas y ddinas a鈥檙 Brifysgol. Gallant gyfeirio鈥檙 myfyrwyr newydd at wybodaeth neu gefnogaeth ychwanegol os bydd angen.
鈥淢ae ymrwymiad yr Arweinwyr Cyfoed a鈥檜 cyfraniad at fywyd Prifysgol Bangor yn amhrisiadwy,鈥 meddai Kim Davies, Cydlynydd Arweinwyr Cyfoed o fewn y Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr.
鈥淢ae鈥檙 Arweinwyr Cyfoed yn trefnu a chynnal digwyddiadau yn ystod yr Wythnos Groeso, ac ar gael i gynorthwyo鈥檙 myfyrwyr newydd wrth iddynt ymaddasu i fywyd Prifysgol. Gallant wneud y gwahaniaeth rhwng myfyriwr newydd yn penderfynu aros yn y Brifysgol neu ymadael yn ystod yr wythnosau cyntaf oddi cartref. Maent yn dod yn ffrindiau i鈥檞 myfyrwyr, a bydd rhai cysylltiadau鈥檔 parhau trwy鈥檙 Brifysgol,鈥 ychwanegodd.
Enwebwyd Victoria a Joe am y wobr hon gan y myfyrwyr blwyddyn gyntaf y meant yn gyfrifol fel Arweinydd Cyfoed arnynt. Enwebwyd Joe am ei fod yn hynod o groesawgar a bob tro鈥檔 trio鈥檌 orau i ateb unrhyw gwestiynau a datrys unrhyw broblem. Dywedodd un o鈥檙 enwebwyr: "Rwy'n gwybod na fyddwn wedi gallu wynebu鈥檙 flwyddyn gyntaf heb y cymorth yr oedd ar gael ganddo."
Ar 么l derbyn ei wobr, dywedodd Joe: "Roeddwn eisiau bod yn Arweinydd Cyfoed gan fy mod eisiau helpu myfyrwyr blwyddyn gyntaf deimlo鈥檔 gartrefol, oherwydd yn fy mlwyddyn gyntaf cefais ddechrau sigledig a doeddwn i ddim eisiau i unrhyw un arall gael yr un profiad. Rwy'n hynod o falch o fod yn rhan o'r cynllun Arweinwyr Cyfoed a gychwynnodd ym Mangor a hefyd bod yn rhan o gr诺p sy'n gofalu am fyfyrwyr. Mae wedi bod yn brofiad gwych."
Cafodd Victoria ei henwebu am ei bod wedi annog myfyrwyr i ymuno 芒 chlybiau a chymdeithasau, rhoi鈥檙 hyder i fyfyrwyr archwilio Bangor a gwneud y mwyaf o鈥檙 cyfleoedd ar gael. Roedd hi hefyd mewn cysylltiad trwy gydol y flwyddyn ac wedi cysylltu gyda myfyrwyr sawl gwaith cyn iddynt ddod i Fangor ac yn ateb llawer o gwestiynau cyn iddynt gyrraedd. Meddai un enwebwr , "yn ystod cyfnod yr arholiadau yr oedd yn sicrhau fy mod yn iawn ac yn fy nghynghori am ffynonellau i gael cymorth ychwanegol."
Wrth ei bodd gyda'i wobr, dywedodd Victoria: "Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf ym Mangor, cefais ofal a chymorth gan Arweinwyr Cyfoed ac yr oeddwn eisiau bod yn rhan o hynny. Mae ein hysgol mor agos; rwyf wrth fy modd yn ymuno 芒 gweithgareddau a chwrdd 芒 holl fyfyrwyr blwyddyn gyntaf a hefyd cadw mewn cysylltiad 芒 nhw trwy gydol y flwyddyn."
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mai 2014