Prifysgol Bangor yn ennill dwy wobr Athena SWAN - y tro cyntaf i Ysgol Busnes Bangor
Mae'n bleser gan Brifysgol Bangor gyhoeddi bod dau gais diweddar i Athena SWAN gan Ysgol Busnes Bangor a'r Ysgol Seicoleg wedi bod yn llwyddiannus. Ysgol Busnes Bangor yw'r Ysgol gyntaf o Goleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a Busnes i ennill gwobr. Mae gan yr Ysgol Seicoleg wobr Efydd ers 2016 ac fe lwyddodd i adennill y wobr honno.Mae'r gwobrau yma'n cydnabod ymrwymiad parhaus y Brifysgol a'r Ysgolion i gydraddoldeb rhywiol ymhlith y staff a'r myfyrwyr.
Dywedodd Yr Athro Jon Williams, Pennaeth Ysgol Busnes Bangor:鈥淢ae'r Ysgol Fusnes yn falch iawn o dderbyn clod a bri gwobr Efydd Athena Swan er cydnabod ein hymrwymiad i gydraddoldeb rhywiol. Bydd yr Ysgol Fusnes yn parhau i roi lle blaenllaw i gydraddoldeb yn ei gweithgareddau i ehangu cyfleoedd a chyfrannu at gynyddu amrywiaeth yn y gweithle鈥.
"Rydym yn falch iawn ein bod wedi ennill y Wobr Efydd unwaith yn rhagor er cydnabod ein hymrwymiad i gydraddoldeb yn yr Ysgol" meddai'r Athro John Parkinson,Pennaeth yr Ysgol Seicoleg. 鈥淩ydym yn falch iawn o'r cynnydd a wnaethom hyd yma'n sicrhau bod yr Ysgol Seicoleg yn lle gwych i weithio ac iddi ffocws mawr ar sicrhau cydraddoldeb a lles y staff a'r myfyrwyr. Fodd bynnag, nid da lle gellir gwell a rhaid gwella er mwyn ennill Gwobr Arian gyda'n cais nesaf."
Dywedodd yr Athro Iwan Davies, yr Is-Ganghellor, "Hoffwn longyfarch Ysgol Fusnes Bangor a'r Ysgol Seicoleg ar eu ceisiadau llwyddiannus. Rwy鈥檔 falch iawn bod dwy Ysgol arall wedi ennill gwobrau Efydd SWAN Athena er cydnabod y gwaith yr ydym yn ei wneud i sicrhau cydraddoldeb rhywiol ym Mangor. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i barhau 芒'n gwaith yn y maes hwn ac i ymgorffori cydraddoldeb ym mhopeth a wnawn."
Sefydlwyd Siarter Athena SWAN yn 2005 i annog a chydnabod ymrwymiad i hybu gyrfaoedd menywod ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) mewn addysg uwch. Ehangwyd y Siarter yn 2015 i gynnwys pob adran academaidd a staff gwasanaethau proffesiynol. Mae Athena SWAN bellach yn cydnabod gwaith a wnaed i fynd i'r afael 芒 chydraddoldeb rhywiol yn ehangach ac mae鈥檙 gwobrau'n cydnabod ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth rhwng y rhywiau, arferion gwaith rhagorol, a'r diwylliant cynhwysol yr ydym yn ei hyrwyddo i staff a myfyrwyr ar bob lefel.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Hydref 2019