Prifysgol Bangor yn cynorthwyo gydag adolygu Lefel A Addysg Gorfforol
Daeth 25 o ddisgyblion lefel A o Ysgolion Ynys Môn, Ysgol Tryfan, Ysgol Friars, Ysgol y Berwyn ac Ysgol Syr Hugh Owen at ei gilydd i gymryd rhan mewn diwrnod adolygu Addysg Gorfforol ddwyieithog ym Mhrifysgol Bangor yn ddiweddar.
Eleni oedd y tro cyntaf i Ysgol Gwyddor Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y Brifysgol drefnu diwrnod adolygu oedd yn cynnwys cyflwyniadau ar seicoleg chwaraeon a ffisioleg chwaraeon, gyda nifer o ymarferion grŵp. Derbyniodd y disgyblion adnoddau wedi eu paratoi i’w helpu gydag adolygu yn cynnwys pecyn adolygu i fynd adref â nhw.
Meddai Dr Eleri Sian Jones, Darlithydd Seicoleg Chwaraeon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor: “Roeddem yn awyddus i wahodd ysgolion lleol i'r Adran i’w helpu i baratoi ar gyfer eu harholiadau lefel A. Cafodd y diwrnod ei gynllunio mewn cydweithrediad ag athrawon o ysgolion lleol er mwyn i ni gwrdd ag anghenion y myfyrwyr. Mwynhaodd Dr Julian Owen a finnau weithio gyda'r bobl ifanc ac roedd yn wych gweithio mewn partneriaeth gydag ysgolion lleol.
“Cefais y cyfle hefyd i drafod gyrfaoedd posib ym maes gwyddor chwaraeon a’u hysbrydoli gobeithio i barhau i astudio chwaraeon yn y brifysgol.â€
Meddai Donna Jones, Ysgol Friars: "Roedd y diwrnod adolygu wedi’i gynllunio'n dda iawn. Cafodd y cysyniadau eu hegluro’n glir ac roeddynt yn gysylltiedig â'r mathau o gwestiynau a ddisgwylir yn yr arholiad. Dangoswyd i’r disgyblion sut a pham mae angen iddynt gymhwyso eu gwybodaeth i fanteisio ar farciau yn yr arholiad."
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2016