Prifysgol Bangor i arwain project £1.2 miliwn ar Ddementia a'r Celfyddydau Gweledol
Bydd Prifysgol Bangor yn arwain un o nifer o brojectau a fydd yn gweld ymchwilwyr y brifysgol, grwpiau cymunedol ac elusennau ac ymddiriedolaethau cenedlaethol yn cydweithio i ymchwilio i iechyd a lles cymunedau, ymwneud â’r gymuned a’i chael i weithredu. Mae’r Brifysgol wedi derbyn Grant Mawr yn y thema Diwylliannau, Iechyd a Lles, un o bum thema'r Rhaglen Cymunedau Cysylltiedig sy'n rhannu cyllid o fwy na £7 miliwn.
Mae'r Rhaglen Cymunedau Cysylltiedig wedi'i chynllunio i'n cynorthwyo ni i ddeall natur newidiol cymunedau yn eu cyd-destun hanesyddol a diwylliannol, a rôl cymunedau wrth gynnal a gwella'n safon byw. Caiff ei chyllido ar y cyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.
Mae'r Rhaglenni Cymunedau Cysylltiedig yn canolbwyntio ar ymwneud â chymunedau, gan roi cyfle iddynt gyfrannu at greu, cynllunio a chynhyrchu'r ymchwil. Drwy weithio mewn partneriaethau gyda grwpiau cymunedol, mae'r ymchwil yn gallu cynhyrchu gwybodaeth a chreu adnoddau sydd o bwys uniongyrchol i'r grwpiau dan sylw, ond sydd hefyd â manteision ehangach cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd.
Mae Prifysgol Bangor yn derbyn £1.2 miliwn i arwain project gyda phrifysgolion eraill sy'n ymchwilio i sut gall cymryd rhan mewn celfyddydau gweledol gyfrannu at wella iechyd a lles pobl gyda dementia. Mae gan y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia ym Mhrifysgol Bangor arbenigedd mewn datblygu ac ymchwilio i effeithiolrwydd ymyriadau seico-gymdeithasol i bobl â dementia a’u gofalwyr, ymyriadau sy'n gwella iechyd a lles mewn pobl hŷn, a chyflwyno hyfforddiant arbenigol mewn gofal dementia.
Mae'r ymchwil newydd hon, a fydd yn dechrau 1 Gorffennaf, yn edrych ar sut gall cymunedau cefnogol i ddementia elwa ar weithgarwch creadigol.
Mae Dr Gill Windle, fydd yn arwain y project, yn egluro: "Mae’r project yn ymwneud â defnyddio amrywiaeth o gelfyddydau gweledol i herio agweddau negyddol pobl, ac i ailgysylltu pobl gyda dementia yn ôl i'w cymunedau. Byddwn yn ymchwilio i sut mae hyn yn gweithio, a sut y gall grwpiau o bobl ledaenu a rhannu syniadau, a mesur ac olrhain unrhyw newid o ganlyniad i hynny mewn agweddau a chanfyddiadau ynghylch pobl gyda dementia."
Mae'r project tair blynedd yn dod ag ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol at ei gilydd sy'n arbenigo mewn dementia, gerontoleg, seicoleg ac economeg gydag ymchwilwyr yn y celfyddydau gweledol, polisi diwylliannol ac astudiaethau amgueddfeydd. Y partneriaid yw Prifysgolion Metropolitan Manceinion, Newcastle, Nottingham ac Abertawe a Choleg Prifysgol Llundain ynghyd ag Age Watch, Cymdeithas Alzheimer, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Ddinbych, Engage Cymru, Derbyshire Community Health Service NHS, Equal Arts, the BALTIC Centre for Contemporary Art, Tyne & Wear Archives and Museums, National Institute for Health Research a Nottingham Contemporary Ltd.
Meddai’r Athro John G. Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: "Mae Prifysgol Bangor yn adnabyddus am y cyfraniad mae ein hymchwilwyr wedi'i wneud wrth ddatblygu ac ymchwilio i wasanaethau i bobl â dementia, ac edrych ar ffyrdd effeithiol o wella lles pobl hŷn yn ein cymunedau. Mae'n bleser gennyf y bydd y project cyffrous hwn yn datblygu un elfen o'r gwaith hwn mewn cyfeiriad newydd a chyffrous."
Gan gyhoeddi'r Gwobrau, dywedodd y Gwir Anrh. David Willetts, Gweinidog Prifysgolion a Gwyddoniaeth Prydain: "Bydd y buddsoddiad cyfalaf £4 miliwn yn y projectau Cymunedau Cysylltiedig yn arwain at ddatblygu ffyrdd newydd i gynnwys cymunedau mewn gwaith creu, dehongli a defnyddio data ymchwil i'r celfyddydau a'r dyniaethau. Bydd hyn yn gadael etifeddiaeth ac adnodd cynaliadwy ar gyfer ymchwil a chymunedau yn y dyfodol."
Yr Athro Rick Rylance, Prif Weithredwr yr AHRC, “Ar ran y Rhaglen Cymunedau Cysylltiedig traws-gynghorau, mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein cefnogaeth i'r projectau uchelgeisiol ac arloesol hyn. Yn benodol, rwy'n croesawu eu natur gydweithredol. Mae dros 60 o sefydliadau partner o wahanol fathau'n chwarae rhan allweddol, gan ychwanegu at y cannoedd o gymunedau a sefydliadau partner sydd eisoes yn cyfrannu at yr ymchwil. Mae'r projectau'n dod ag ymchwilwyr ynghyd o dros 20 o ddisgyblaethau, o'r celfyddydau a'r dyniaethau, gwyddorau cymdeithas, iechyd a thechnolegau digidol, ynghyd ag amrywiaeth o bartneriaid rhyngwladol. Mae'n gydweithio sy'n wir yn croesi ffiniau gan gysylltu gwledydd, sefydliadau a disgyblaethau yn ogystal â chymunedau."
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2013