Pobl ddwyieithog yn cymryd mwy o risg os rhoddir adborth iddynt yn eu mamiaith
Mae ymchwil diweddar ym Mhrifysgol Bangor yn dangos bod pobl ddwyieithog Tsiein毛eg-Saesneg yn cymryd mwy o risg wrth gamblo os rhoddir adborth iddynt mewn Tsiein毛eg yn hytrach na Saesneg.
Mewn papur sydd newydd ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn Journal of Neuroscience, bu Shan Gao, Robert Rogers, a Guillaume Thierry o鈥檙 Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor ac Ondrej Zika o Brifysgol Aberystwyth yn ymchwilio i gymryd risg mewn gwahanol gyd-destunau iaith.
Fel rhan o鈥檙 ymchwil, gofynnwyd i fyfyrwyr sy鈥檔 siarad Tsiein毛eg a Saesneg gamblo mewn arbrawf cyfrifiadurol. Rhoddwyd adborth iddynt naill ai mewn Tsiein毛eg neu Saesneg mewn gwahanol rannau o鈥檙 arbrawf.
Dangosodd y canlyniadau bod y myfyrwyr yn gwneud penderfyniadau yn gyflymach a鈥檜 bod yn fwy tebygol o gamblo pan roddwyd yr adborth yn eu hiaith gyntaf. Roedd yr adborth a roddwyd yn Saesneg yn arwain at lai o gamblo ac ymateb arafach i鈥檞 gymharu 芒鈥檙 adborth a roddwyd mewn Tsiein毛eg.
Mae鈥檙 ymchwil yn awgrymu bod gan bobl fwy o ffydd mewn adborth a roddir yn eu hiaith gyntaf yn hytrach nag yn eu hail iaith, ac mae hynny yn ei dro yn arwain at gymryd mwy o risg.
Dywedodd yr Athro Guillaume Thierry:
鈥淒ewch i ni gyffredinoli hyn i bob siaradwr dwyieithog. Os ydych yn cymryd rhan mewn gweithgaredd sy鈥檔 gofyn i chi gymryd risg, efallai y byddai鈥檔 well gennych gael adborth yn eich ail iaith er mwyn lleihau鈥檙 risg. Ac wrth gwrs, os yw rhywun eisiau i chi gymryd mwy o risg, dylent roi adborth i chi yn eich mamiaith. Beth sy鈥檔 ddiddorol am hyn yw ei fod yn berthnasol i adborth cadarnhaol yn unig ac nid i adborth negyddol.
Dyma鈥檙 unig dro yn fy ngyrfa i mi betruso am resymau moesegol cyn cyflwyno papur. Os byddai cwmn茂au gamblo ar-lein yn defnyddio鈥檙 canlyniadau hyn, gallent gynyddu eu helw鈥檔 sylweddol. Ond eto, ar y llaw arall, os ydym yn lledaenu鈥檙 wybodaeth hon yn ddigon cyflym, gall unigolion dwyieithog fod yn ymwybodol o hyn, ac amddiffyn eu hunain trwy gamblo yn eu hail iaith.鈥
Shan Gao, Ondrej Zika, Robert Rogers, a Guillaume Thierry (Ebrill 15 2015) 鈥淪econd language feedback abolishes the 鈥渉ot hand鈥 effect during even-probability gambling鈥. Journal of Neuroscience.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 2015