Pedwar o Fangor yn cael eu penodi i gorff Cenedlaethol newydd
Mae pedwar academydd blaenllaw ym maes iechyd o Brifysgol Bangor wedi鈥檜 penodi鈥檔 aelodau o Gyfadran Uwch y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR). Cyhoeddwyd y penodiadau gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, yn ddiweddar.
Dyma aelodau鈥檙 Gyfadran sy鈥檔 dod o Brifysgol Bangor: yr Athro Linda Clare o鈥檙 , sy鈥檔 arbenigwraig flaenllaw ym maes niwroseicoleg cof ac adferiad gwybyddol mewn anhwylderau cof; yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, economegydd iechyd sy鈥檔 cyd-arwain y o fewn y Brifysgol; yr Athro Clare Wilkinson, sy鈥檔 arwain Canolfan Gogledd Cymru ar gyfer , sy鈥檔 canolbwyntio ar ymchwil gwyddorau iechyd ym maes anhwylderau cyhyrysgerbydol a chanser mewn perthynas 芒 gofal sylfaenol; a鈥檙 Athro Bob Woods, arbenigwr blaenllaw ym maes gofal pobol 芒 dementia, o fewn .
鈥淢ae鈥檙 penodiadau鈥檔 adlewyrchu鈥檙 cyfraniad arwyddocaol at ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol a wneir ar draws amrediad eang o ddisgyblaethau yma ym Mhrifysgol Bangor. Rydym yn edrych ymlaen at gyfraniad gwerthfawr gan ein hymchwilwyr iechyd blaenllaw, wrth iddynt rannu鈥檙 arfer gorau a chydweithio ag eraill ar draws Cymru i gefnogi a hybu ymchwil ar y cyd sy鈥檔 cyfrannu at wella gofal iechyd a gofal cymdeithasol er budd y gymuned ehangach,鈥 meddai鈥檙 Athro David Shepherd, Dirprwy i鈥檙 Is-Ganghellor (Ymchwil a Menter).
Mae鈥檙 Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR) yn gorff o eiddo Llywodraeth Cymru sy鈥檔 datblygu, gan ymgynghori 芒 phartneriaid, strategaeth a pholisi ar gyfer ymchwil yn y GIG ac ym maes gofal cymdeithasol yng Nghymru. Nod y sefydliad yw cyllido ymchwil heddiw a fydd yn llywio gofal yfory ac yn gwella iechyd a chyfoeth pobl Cymru.
Lansiwyd Cyfadran NISCHR yn swyddogol yn Ebrill 2013 yn ystod Cynhadledd NISCHR yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Mae鈥檙 Gyfadran wedi ei chreu i ehangu cydweithio, i ddarparu arweiniad ac i roi ymdeimlad o gymuned i ymchwilwyr gofal iechyd a cymdeithasol a fydd yn rhoi mwy o hwb i ddiwylliant ymchwil ffyniannus yng Nghymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mai 2013