Partneriaeth newydd i ddatblygu talent rygbi gogledd Cymru
Gallai chwaraewyr rygbi ifanc talentog wireddu eu breuddwyd o chwarae dros Gymru diolch i bartneriaeth newydd rhwng Prifysgol Bangor a (RGC).
Drwy ysgoloriaethau chwaraeon Prifysgol Bangor ar gyfer athletwyr elît, mae saith myfyriwr sy'n chwarae i RGC, yr ochr rygbi ranbarthol ar gyfer gogledd Cymru, wedi gallu symud ymlaen i addysg uwch gan barhau i chwarae rygbi ar lefel uchel.
Dyfernir Ysgoloriaethau Chwaraeon i gydnabod a chefnogi rhagoriaeth a chyflawniad mewn chwaraeon. Eu diben yw helpu myfyrwyr dawnus a llwyddiannus i gyfuno eu hastudiaethau academaidd a’u perfformiad mewn chwaraeon er mwyn eu cynorthwyo i wireddu eu potensial yn llawn.
Y chwaraewyr a dderbyniodd ysgoloriaeth yw Danny Cross, 19, o Wrecsam; Ianto Pari, 19, o Aberdaron; James Lang, Rhun Williams, 18 oed o Bontrug; Sam Jones, 18 oed o Lanidloes; Sean Lonsdale, 18 oed o Brestatyn a Will Bryan, 19, o Gaerwys.
Bydd y bartneriaeth newydd yn caniatáu i chwaraewyr a nodwyd gan RGC i aros yng ngogledd Cymru i astudio a datblygu eu rygbi. Sefydlwyd RGC yn 2011 i helpu i wella'r cyfleoedd sydd ar gael i chwaraewyr rygbi gorau gogledd Cymru. Yn eu blynyddoedd cyntaf, gweithiodd RGC yn bennaf gyda chwaraewyr dan 18 oed mewn addysg bellach, ond datblygodd yr angen am lwybr ôl-18 yn fuan iawn.
Meddai Marc Roberts, Undeb Rygbi Cymru: "Yn draddodiadol roedd y chwaraewyr gorau yn cael eu denu i dde Cymru, gyda'r nod o chwarae i un o'r pedwar rhanbarth proffesiynol - y Scarlets, y Gweilch, Gleision Caerdydd neu’r Dreigiau. Mae gwaith Academi RGC hyd at y tîm hŷn wedi galluogi chwaraewyr i gael llwybr clir i barhau i ddatblygu eu sgiliau rygbi. Mae RGC yn gwbl ymroddedig i ddatblygu chwaraewyr oddi ar y cae, ac rydym yn gallu cyflawni hyn drwy roi'r opsiwn o gael gyrfa ar ôl rygbi iddynt. Mae llwyddiant diweddar Rhun Williams gyda charfan dan 20 Cymru yn brawf y bydd y bartneriaeth hon yn naddu llwybr llwyddiannus ar gyfer chwaraewyr dawnus y gogledd."
Dywedodd Richard Bennett, Cyfarwyddwr Chwaraeon a Hamdden, Prifysgol Bangor: "Drwy ein hysgoloriaethau chwaraeon, gall athletwyr talentog ragori yn eu chwaraeon wrth barhau â'u haddysg. Mae'r Brifysgol wedi buddsoddi'n helaeth mewn cyfleusterau chwaraeon yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ac ynghyd â chefnogaeth un-i-un gan academyddion yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, bydd ein partneriaeth gyda RGC yn gweld y gogledd yn cynhyrchu chwaraewyr rygbi gorau'r dyfodol."
Cydnabuwyd George North, un o chwaraewyr rygbi rhyngwladol Cymru, gan Brifysgol Bangor am ei wasanaeth i chwaraeon yn 2014 pan gyflwynwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd iddo yn ystod yr wythnos raddio.
Straeon perthnasol:
Myfyriwr Prifysgol Bangor wedi ei ddewis ar gyfer Carfan Rygbi Dan 20 Cymru
Dyfarnu Ysgoloriaethau Chwaraeon i Athletwyr elit Bangor
Dyddiad cyhoeddi: 24 Chwefror 2016