Paratoi athrawon yfory ar gyfer addysgu ar 么l COVID-19
Gyda鈥檙 rhaglen frechlu yn ei hanterth ac ysgolion bellach yn ailagor, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn ymchwilio i effeithiau cau ysgolion oherwydd COVID-19 ar ddysgwyr, athrawon a theuluoedd.
Mae'r ymchwil eisiau archwilio'r heriau cysylltiedig 芒 COVID-19 y mae dysgwyr ac ysgolion wedi鈥檜 hwynebu a sut i baratoi athrawon yfory orau i oresgyn yr heriau hyn. Mae'r gwaith yn cynnwys sawl astudiaeth a gynhaliwyd mewn cydweithrediad 芒 sefydliadau eraill sy'n cynnig Addysg Gychwynnol Athrawon ledled Cymru. Ariennir y gwaith gan Lywodraeth Cymru ac mae Bangor yn gysylltiedig 芒 phedair o'r astudiaethau hyn.
Mae'r astudiaeth gyntaf yn archwilio effaith cau ysgolion ar iechyd a lles dysgwyr ac athrawon, gan nodi materion diogelu a phwysigrwydd cynyddol dysgu yn yr awyr agored.
Mae'r ail astudiaeth yn edrych ar yr effaith ar ddysgwyr mewn addysg cyfrwng Gymraeg oherwydd pryderon yngl欧n 芒 dysgwyr yn cael llai o gysylltiad 芒'r Gymraeg, yn enwedig plant sy'n byw mewn cartrefi di-Gymraeg.
Mae ymchwilwyr sy'n gysylltiedig 芒'r drydedd astudiaeth yn canolbwyntio ar effaith cyfyngiadau ar ddysgwyr ar draws amrywiaeth o ysgolion, yn enwedig y rhai sy'n cael eu hystyried dan anfantais.
Mae'r bedwaredd astudiaeth yn ymchwilio i bwysigrwydd ymrwymiad rhieni i addysg a sut mae symud dysgu yn gyfan gwbl i'r cartref wedi effeithio ar deuluoedd, athrawon a dysgwyr.
Bydd y pedair astudiaeth yn helpu i lywio hyfforddiant athrawon yfory i sicrhau eu bod yn barod i gwrdd 芒'r heriau hyn gyda dulliau a strategaethau effeithiol.
Fel rhan o'r gwaith hwn, mae ymchwilwyr yn siarad 芒 rhieni, athrawon, dysgwyr a myfyrwyr a darparwyr Addysg Gychwynnol Athrawon i glywed am eu profiadau, yn ogystal 芒 rhanddeiliaid pwysig fel Estyn. Dechreuodd y projectau ym mis Hydref 2020 ac mae disgwyl iddynt orffen ym mis Mai 2021 pan fydd y canlyniadau'n cael eu cyflwyno i'r llywodraeth.
Dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams: 鈥淩ydw i mor falch o sut mae ein prifysgolion yng Nghymru wedi cyfrannu at gefnogi鈥檙 ymdrech i frwydro yn erbyn y coronafirws yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon. Bydd yr ymchwil ddiweddaraf hon yn helpu i ddangos sut mae ein pobl ifanc a'n system addysg wedi cael eu heffeithio yn ystod y pandemig, a sut y gallwn ni fel llywodraeth ddysgu ac addasu yn y dyfodol.鈥
Dywedodd Dr Margiad Williams, y Cyfarwyddwr Ymchwil dros dro yn Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor: 鈥淢ae COVID-19 wedi arwain at darfu enfawr ar addysg a bywyd teuluol felly mae'n hanfodol ein bod yn ceisio deall y newidiadau hyn a'u heffeithiau. Mae'r astudiaethau hyn yn ein galluogi i ymchwilio i'r heriau a nodi arferion da i helpu i sicrhau bod gweithlu addysgu'r dyfodol yn cael eu paratoi. Rydym yn falch iawn o gydweithio 芒 chydweithwyr ledled Cymru ar y projectau pwysig hyn鈥.
Mae Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol Prifysgol Bangor yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer darpar athrawon sydd eisiau gweithio mewn addysg gynradd ac uwchradd, yn ogystal 芒 datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon sydd wedi cymhwyso trwy bartneriaeth CaBan. I gael rhagor o fanylion ewch i
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mawrth 2021