Papur 'Cyntun yn y prynhawn yn gwella dygnwch perfformiad rhedwyr' yn 4ydd yng Ngwobrau Papurau Gorau EJSS
Mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor wedi cynnig y dystiolaeth arbrofol gyntaf i ddangos y gall cyntun byr fod o fudd i berfformiad athletwyr dygnwch. Fel rhan o'r ymchwil, cymerodd rhedwyr a oedd wedi'u hyfforddi'n dda gyntun yn y prynhawn rhwng ymarfer rhedeg heriol yn y bore a min nos. Yn ddiddorol, roedd manteision cyntun yn dibynnu ar faint o gwsg roedd y rhedwyr fel arfer yn ei gael yn ystod y nos, gyda'r rheiny a oedd yn cael llai na 7 awr yn elwa. Roedd y rhedwyr hynny a brofodd welliant yn eu perfformiad ymarfer corff fin nos ar 么l cael cyntun yn cysgu llai yn ystod y nos na'r rheiny na welodd welliant yn eu perfformiad ymarfer corff. Ymddengys bod y gwelliant mewn perfformiad dygnwch yn dilyn y cyntun prynhawn i'w weld ymhlith y rhedwyr hynny am eu bod yn canfod yr ymarfer fin nos yn llai ymdrechgar.
Mae'r canllawiau i gymryd cyntun sy'n deillio o'r ymchwil hon yn cynnig y dylai athletwyr dygnwch geisio cysgu yn y prynhawn am ddim hwy na 40 munud ac y gall cyntun o gyn lleied ag 20 munud fod yn effeithiol. Dylai athletwyr sicrhau eu bod yn deffro o'r cyntun o leiaf 90 munud cyn ymarfer er mwyn dod dros unrhyw awydd i gysgu.
Mae sawl rheswm pam y gallai athletwyr fod yn peidio 芒 chael digon o gwsg yn ystod y nos. Er enghraifft pryder am gystadlu, teithiau hedfan hir, cystadlaethau hwyr y nos, neu ddyletswyddau teuluol. Mae'r ymchwil yn dangos bod cymryd cyntun yn gallu bod yn strategaeth bwysig, ond syml, i gael y gorau o ymarfer dygnwch pan nad yw athletwr yn cael digon o gwsg.
Dyma drydedd flwyddyn Gwobrau Papurau Gorau'r European Journal of Sport Science, a'u bwriad yw cefnogi'r nod o 鈥渓edaenu gwyddoniaeth arloesol o ansawdd uchel a'i chymhwysiad鈥. Adolygwyd 10 rhifyn cyfrol 18, 2018 am wreiddioldeb, arwyddoc芒d, trylwyredd methodolegol ac effaith bosibl. Cafodd y papur, a ysgrifennwyd gan Dr Blanchfield ac aelodau eraill y osod yn 4ydd, a gellir ei ddarllen yma: ''.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2019