Papur ar wella ansawdd yn rhestr papurau gorau 2019
Mae ymchwil gan Dr Lorelei Jones, Darlithydd Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor, a chydweithwyr yn UCL, Kings ac Imperial, wedi ei gynnwys yn y rhestr BMJ Quality and Safety o bapurau gorau 2019.
Mae'r papur yn trafod sut mae sefydliadau gofal iechyd yn ymateb i wella ansawdd.
Mae gwella ansawdd y gofal a ddarperir gan ysbytai yn flaenoriaeth i systemau gofal iechyd ledled y byd. Roedd yr astudiaeth hon yn rhan o werthusiad o fenter mewn 6 ysbyty yn Lloegr i gynorthwyo'r uwch dimau rheoli i wella ansawdd y gofal a ddarperir gan y sefydliad. Nod yr astudiaeth oedd egluro effeithiau'r fenter, a nodi gwersi ar gyfer cynllunio mentrau yn y dyfodol.
Er mwyn i sefydliadau elwa o fentrau gwella ansawdd, canfu fod rhaid iddynt gael rhywfaint o ryddid - a ddisgrifiwyd gan y cyfranogwyr fel 'amser i feddwl' a 'rhywun i wneud y gwaith'.  Roedd gan y sefydliadau a elwodd o'r ymyriad hefyd dimau rheoli sefydlog a gweledigaeth gyffredin ar gyfer gwella ansawdd. Goblygiadau ein hymchwil i reoleiddwyr sy'n ymwneud â chryfhau gallu ysbytai i wella yw bod rhaid iddynt gymryd rhyddid o ddifrif, a lleihau nifer y galwadau ar sefydliadau yn unol â hynny. Efallai y bydd sefydliadau sy'n ystyried cymryd rhan yn y math hwn o fenter yn ystyried yn gyntaf yr hyn y gallent roi'r gorau i'w wneud er mwyn caniatáu digon o ryddid.
Mae ein hastudiaeth yn awgrymu na fydd ychwanegu un fenter arall at sefydliad sydd eisoes wedi ei orlwytho yn arwain at y canlyniadau a ddymunir. Dylid addasu cynllun ymyriadau ar lefel y bwrdd i'r cyd-destun, er enghraifft, trwy ganolbwyntio ar gryfhau blociau adeiladu gweithrediad bwrdd iach mewn sefydliadau lle mae hyn yn wan.
Cyllidwr: National Institute for Health Research Collaboration for Leadership in Applied Health Research a Care North Thames
Tîm ymchwil: Dr Lorelei Jones, Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor
Linda Pomeroy, Department of Applied Health Research, UCL
Glenn Robert, Florence Nightingale Faculty of Nursing, Midwifery & Palliative Care,
King's College, Llundain
Susan Burnett, Department of Surgery and Cancer, Imperial College London
Janet Anderson, Florence Nightingale Faculty of Nursing, Midwifery & Palliative Care,
King's College, Llundain
Steve Morris, Department of Applied Health Research, UCL
Estela Capelas Barbosa, Department of Applied Health Research, UCL
Naomi Fulop, Department of Applied Health Research, UCL (Principal Investigator)
Llongyfarchiadau i bawb a gyfranodd!
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mawrth 2020