North West Cancer Research yn neilltuo gwerth miliynau o bunnoedd o gyllid ymchwil canser ym Mhrifysgol Bangor
Mae'r elusen sy'n ariannu ymchwil canser yng ngogledd Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn cyfrannu £1.34 miliwn i hyrwyddo ymchwil i ganser ym Mhrifysgol Bangor.
Mae wedi cyhoeddi’r cyllid i gefnogi swydd Athro newydd mewn Astudiaethau Canser yn Sefydliad Ymchwil Canser y Gogledd Orllewin yn y Brifysgol, a bydd hefyd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Bydd yr Athro yn arwain gwerth £1.8miliwn o fuddsoddiad mewn ymchwil i ganser yng Nghymru, a ddarparwyd gan North West Cancer Research a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae'n cynnwys darpariaethau i ariannu penodi Uwch Ddarlithydd Clinigol, Rheolwr Labordy ôl-ddoethuriaeth a dwy ysgoloriaeth PhD am bum mlynedd.
Bydd y cyllid hefyd yn caniatáu prynu nwyddau traul ac offer, gan helpu i wneud Prifysgol Bangor a Betsi Cadwaladr yn ganolfannau rhagoriaeth ar gyfer ymchwil i ganser, a fydd yn helpu i ddenu ymchwilwyr o'r radd flaenaf, gwyddonwyr a chlinigwyr.
Mae Prifysgol Bangor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymrwymo i ariannu'r swyddi Athro ac Uwch-ddarlithydd Clinigol y tu hwnt i’r bum mlynedd gyntaf fel swyddi parhaol.
North West Cancer Research yw’r noddwr elusennol mwyaf ym maes ymchwil canser achub bywyd ym Mhrifysgol Bangor, ac mae wedi ymrwymo i gyllido mwy na £7miliwn o ymchwil dros y 5 mlynedd nesaf.
Mae cyllid North West Cancer Research wedi rhoi hwb i ddealltwriaeth o ganserau megis lewcemia, canser y brostad a chanser y croen. Yn fwy diweddar, mae wedi ariannu ymchwil sylfaenol sy'n edrych ar sut mae celloedd canser yn ymrannu ac effaith hynny ar dwf tiwmor a thriniaeth ar gyfer tiwmor.
Dywedodd Dr Edgar Hartsuiker, Cadeirydd Ymchwil i Ganser y Gogledd Orllewin Bangor: "Mae North West Cancer Research a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi clustnodi’r swm sylweddol hwn, a fydd yn caniatáu inni fwrw ymlaen â datblygiadau ymchwil canser yma ym Mangor.
"Bydd yr Athro yn benodiad nodedig, a bydd yn arwain ar y gwaith ymchwil o'r radd flaenaf sydd eisoes ar waith yma. Gobeithiwn fod mewn sefyllfa i gyhoeddi penodiad newydd yn y misoedd nesaf ac rydym yn croesawu ceisiadau gan academyddion clinigol â record ymchwil rhagorol o ledled y byd."
Dywedodd Dr Caroline Usborne, Cyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Gwasanaethau Canser Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Bydd yr arian hwn nid yn unig yn hybu ein gallu ymchwil yma yng ngogledd Cymru, ond bydd yn ein helpu i recriwtio clinigwyr ychwanegol o ansawdd uchel i'r gogledd, a gaiff effaith uniongyrchol ar ein cleifion canser."
Dywedodd yr Athro Dean Williams, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor: "Bydd y cymorth ychwanegol gan NWCR a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar gyfer y swyddi newydd hyn yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol yn gwella proffil ymchwil canser a darpariaeth gwasanaethau canser yng ngogledd Cymru."
Dywedodd yr Athro John G Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor: "Mae hwn yn gam sylweddol yn ein perthynas hirsefydlog â NWCR a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae'n cynnig manteision sylweddol ar gyfer ymchwil canser yn y Brifysgol ac ar gyfer gofal iechyd yng ngogledd Cymru."
Dilynwch y ddolen yma am wybodaeth am y swydd Athro mewn astudiaethau canser:
Dyddiad cyhoeddi: 14 Medi 2017