Newid Ymddygiad yn helpu Menter Gymdeithasol Gynaliadwy'r Flwyddyn
Enillodd menter gymdeithasol leol gwobr genedlaethol gyda chefnogaeth canolfan ymchwil arloesol. Derbyniodd Antur Waunfawr gwobr Cynnal Cymru Menter Gymdeithasol Gynaliadwy 2015 mewn seremoni yng Nghaerdydd. Roedd yr Antur wedi cael hwb i geisio am y wobr yn dilyn prosiect llwyddiannus gyda’r Canolfan Newid Ymddygiad Cymru ym Mhrifysgol Bangor i greu Adroddiad Effaith.
‘Rydym wedi mwynhau gweithio gyda’r Canolfan Newid Ymddygiad’ meddai Menna Jones, Prif Weithredwraig yr Antur, ‘Mae’r Adroddiad Effaith wedi rhoi mân gychwyn i ni ar gyfer ein cais llwyddiannus am wobr Cynnal Cymru’.
Roedd ymchwilwyr o’r , Elizabeth Woodcock a Hong Chun Tan wedi cynnwys gweithwyr ac oedolion gydag anableddau dysgu o Antur Waunfawr yn y broses o ddylunio’r Adroddiad Effaith a dewis ei chynnwys. Trwy ddefnyddio ffotos, testun hawdd i’w darllen yn y Gymraeg a’r Saesneg, a fersiwn sgrin-gyffwrdd o’r Adroddiad roedd hi’n haws i bawb cymryd rhan. Lansiodd yr Adroddiad ym mis Mehefin eleni gan weithiwyr Antur Waunfawr eu hunan gyda chyflwyniad gan yr Athro Jerry Hunter, Pro Vice Chancellor Prifysgol Bangor, ar safle Warws Werdd yng Nghaernarfon.
Mae David John wedi gweithio efo’r Antur ers y dechrau un, dros 30 mlynedd yn ôl, a dywedodd o’r lansiad: ‘Wnes i fwynhau cyflwyno darn fi o’r Adroddiad, a siarad am fy ngwaith yn y Warws Werdd. Mae’r fersiwn sgrin-gyfwrdd yn grêt!’
Nod gwobrau Cynnal Cymru yw cydnabod y pethau da mae pobl a sefydliadau yn ei wneud am ddatblygiad cynaliadwy. Roedd rhaid i’r enillwyr gwblhau proses dau-ran, yn gyntaf i esbonio ei gyfraniad at nodau llesiant cenedlaethol Cymru ac yna i ennill cefnogaeth y cyhoedd mewn pleidlais ar-lein. Dewisodd cais Antur Waunfawr allan o dros 60 cais ar gyfer rhestr fer o 26 yn y rhan cyntaf, ac enillodd yr Antur pleidlais y cyhoedd am y categori Menter Gymdeithasol Gynaliadwy'r Flwyddyn.
Am ragor o wybodaeth am y Gwobrau a’r Nodau Llesiant Cenedlaethol ewch i ac am wybodaeth am Antur Waunfawr ac i lawr lwytho copi o’r Adroddiad Effaith ewch i
Dyddiad cyhoeddi: 27 Tachwedd 2015