Myfyrwyr sy'n wirfoddolwyr yn helpu i godi calonnau cleifion iechyd meddwl
Mae unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth yn cael eu cefnogi yn ystod eu hadferiad diolch i ymdrechion grŵp ymroddgar o fyfyrwyr sy'n gwirfoddoli.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae myfyrwyr caredig wedi rhoi o'u hamser i gynnal grwpiau therapiwteg amrywiol i gleifion yn Uned Iechyd Meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd.
Drwy wneud hyn, maent wedi cael profiad gwirfoddoli gwerthfawr, ac wedi datblygu eu sgiliau, gyda rhai yn mynd yn eu blaen i gael gwaith yn yr uned hyd yn oed.
Mae'r uned 40 gwely yn darparu triniaeth cleifion mewnol i oedolion yng Ngwynedd a Môn sydd ag ystod o broblemau iechyd meddwl.
Ymysg y gweithgareddau a gefnogir gan y myfyrwyr sy'n gwirfoddoli mae grŵp cerdded, sy'n galluogi cleifion gael amser gwerthfawr o'r ysbyty a chyfle i ail gysylltu â'u cymuned leol.
Yn ogystal â hyn, mae'r brifysgol wedi darparu hyfforddwr ymarfer corff cymwysedig yn flaenorol, a gwirfoddolwyr awyddus i helpu hwyluso sesiynau ymarfer corff, y mae ymchwil wedi profi i fod o fudd i unigolion sy'n byw â phroblemau iechyd meddwl.
Mae myfyrwyr yn ymweld â'r uned ddwywaith yr wythnos gyda'r grŵp sydd wedi ei gynnal hiraf i ddarparu ystod o weithgareddau yn cynnwys sesiynau crefft, triniaethau therapiwteg tylino, sesiynau coginio ac amryw o gemau.
Ysbrydolwyd Catrin Roberts i ymgymryd â gyrfa mewn iechyd meddwl ar ôl gwirfoddoli'n rheolaidd yn yr Uned Hergest wrth astudio tuag at ei gradd mewn Seicoleg, Criminoleg a Chyfiawnder Troseddol ym Mhrifysgol Bangor, ac fe raddiodd yn 2014. Mae Catrin wedi cael ei chyflogi fel Nyrs Gweithgareddau ers 2016. Dywedodd:
"Mae ymweliadau'r myfyrwyr wedi bod yn boblogaidd yn barhaus ymysg cleifion sy'n cael cynnig ystod o weithgareddau yn ystod sesiynau. Yn bwysicaf oll, beth mae'r grŵp yn ei gynnig yw gwirfoddolwyr cyfeillgar, sgyrsiau ysgafn a synnwyr o normalrwydd.
"Mae'r grŵp hwn o wirfoddolwyr yn cynnig amser i gleifion heb agenda heblaw am fod yn gyfeillgar, yn groesawgar a heb farnu.
"Wedi gwirfoddoli yn flaenorol yn y grŵp nos fy hun yn ystod fy astudiaethau israddedig, rwy'n gwybod fy hun pa mor gwerth chweil ydyw.
Cafodd Catrin a gwirfoddolwyr eraill Uned Hergest eu cydnabod am eu hymdrechion yng ngwobrau Uned Myfyrwyr Prifysgol Bangor y llynedd.
Mae Poppy Rucki ac Emma Nwanze, myfyrwyr Seicoleg yn y drydedd flwyddyn wedi gwirfoddoli yn yr Uned Hergest dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Dywedodd Poppy: "Mae'n werth chweil nid yn unig i ni ond i ddefnyddwyr gwasanaeth hefyd. Mae'n hyfryd iddynt weld wynebau newydd ac i gael y cyfle i gael allan o amgylchedd ward a rhoi cynnig ar rywbeth newydd."
Ychwanegodd Emma: "Rydym yn cynnal gweithgareddau fel bingo a chwis i geisio cael cleifion i ryngweithio ac ymgysylltu â'i gilydd. Ers i ni fod yma, rydym wedi gweld cleifion yn mynd a dod. Mae'n werth chweil i wybod fod cleifion wedi cael y gefnogaeth y maent ei hangen a’u bod wedi symud ymlaen.
"Mae mwyafrif y swyddi Seicoleg yn gofyn am brofiad cyfnod penodol, ac oherwydd fy mod yn fyfyriwr israddedig mae'n anodd cael y profiad hwnnw. Mae gwneud prosiect gwirfoddoli fel hwn yn wirioneddol helpu i roi dealltwriaeth i chi o sut beth yw gweithio gydag unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl."
Gall myfyrwyr Prifysgol Bangor ddangos diddordeb mewn nifer o gyfleoedd gwirfoddoli ar wefan Undeb Bangor:
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2018