Myfyrwyr o bob rhan o’r byd yn cymryd rhan yn nhrydedd Ysgol Haf flynyddol Visceral Mind ym Mhrifysgol Bangor.
Fe wnaeth dros 140 o ymgeiswyr cymwys iawn wneud cais am y 40 lle a oedd ar gael yn Ysgol Haf Visceral Mind, a gynhaliwyd yn yr Ysgol Seicoleg ym Mangor. Mae’r ysgol haf, sydd yn awr yn ei thrydedd flwyddyn, wedi bod yn boblogaidd ymysg ymchwilwyr ifanc uchelgeisiol sy’n awyddus i rannu arbenigedd fyd-enwog Seicoleg Bangor ym maes niwrowyddoniaeth wybyddol. Nod bennaf y cwrs, a gefnogir gan y James S. McDonnell Foundation, yw gwneud iawn am y diffyg gwybodaeth niwro-anatomegol ymysg niwrowyddonwyr ifanc. Y prif reswm am y diffyg hwn yw nad oes llawer o feinwe ymennydd dynol ar gael y tu allan i’r Unol Daleithiau i roi’r hyfforddiant hwn i fyfyrwyr.
Meddai’r Athro Bob Rafal FLSW, Cyfarwyddwr y Cwrs, “Nid oes unrhyw beth a all gymryd lle’r profiad nodedig o archwilio’r ymennydd dynol, na ffordd well o ddysgu, trwy olwg a chyffyrddiad, am yr ymennydd tri dimensiwn.â€
Yn y cwrs dysgir niwroanatomeg swyddogaethol yr ymennydd dynol trwy arddangosiadau o effeithiau anafiadau i’r ymennydd mewn cleifion niwrolegol, a chyfuno’r arsylwadau hyn â gwaith mewn labordai niwroddelweddu a niwroanatomeg. Mae myfyrwyr yn cael cyfle i ddysgu mwy am ystod eang o gyflyrau niwrolegol, yn cynnwys rhai sy’n brin iawn, ac mae’r rhain yn cynnwys diffygion Motor (e.e. afiechyd Parkinson), diffygion Synhwyraidd, Syndrom Ymennydd Hollt, diffygion Gweledol ac Affasia.
Dros y 3 blynedd ddiwethaf mae’r cwrs hwn wedi denu 120 o fyfyrwyr o 20 gwlad, yn cynnwys Yr Ariannin, Ciwba, Yr Eidal, Lithuania, De Affrica a Singapore, gyda myfyrwyr o wledydd sy’n datblygu’n cael blaenoriaeth yn y system pennu lleoedd. Mae hyn wedi galluogi’r rhai sydd wedi bod ar y rhaglen i fynd â’r technegau ymchwil a’r wybodaeth arloesol a ddatblygwyd ym Mangor yn ôl i’w gwledydd i gefnogi ymchwil yn y meysydd niwrolegol allweddol hyn.
Dywedodd Haike van Stralen o Brifysgol Utrecht, Yr Iseldiroedd: “Roedd yr Ysgol Haf Visceral Mind yn union yr hyn oeddwn wedi obeithio amdano, a llawer mwy. Rydw i wedi dechrau fy PhD yn ddiweddar ac roedd rhai bylchau yn fy ngwybodaeth, yn enwedig yn y maes niwro-anatomi. Llwyddodd y cwrs i lenwi’r bylchau hynny. Er bod yr wythnos yn weddol ddwys gyda llawer o wybodaeth mewn ychydig o amser, mae wedi ei drefnu’n dda ac roedd yr awyrgylch yn anffurfiol gyda digon o amser i ddod i adnabod myfyrwyr eraill a thrafod gwaith ymchwil.â€
Dyddiad cyhoeddi: 10 Medi 2012