Myfyrwyr Bangor yn 鈥楤rolio鈥檜鈥 harbenigedd marchnata yn rownd derfynol cystadleuaeth o fri
Llwyddodd T脦m o Brifysgol Bangor i gyrraedd Rownd derfynol 鈥楤rolio/ The Pitch鈥, cystadleuaeth marchnata bwysig a drefnwyd gan y Sefydliad Marchnata Siartredig sy鈥檔 rhoi鈥檙 cyfle i fyfyrwyr gyflwyno鈥檜 syniadau mewn cystadleuaeth o fri.
Cafodd T脦m 鈥楴ational Thrust鈥 sef James Gudgeon, Bryan Walles, a James Gillespie, myfyrwyr sy鈥檔 arbenigo mewn seicoleg y defnyddiwr, cyfle i cyflwyno鈥檜 syniadau o flaen cynulleidfa o bobl broffesiynol ym maes marchnata a鈥檙 beirniaid mewn digwyddiad yn adeilad y Senedd.
Bu tri th卯m arall o Brifysgol Bangor yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth, un t卯m arall o fyfyrwyr sy鈥檔 arbenigo mewn seicoleg defnyddwyr a dau d卯m o fyfyrwyr sy鈥檔 astudio marchnata yn Ysgol Busnes y Brifysgol ymysg y 12 t卯m o dri myfyriwr o sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru.
Roedd y briff yn gofyn iddynt gyflwyno ffyrdd arloesol o hybu gwirfoddoli ymysg pobl ifanc yn safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Tasg y timau oedd ymateb i鈥檙 br卯ff manwl ac ystyried cyllidebau, negeseuon ac offer marchnata yn eu cyflwyniadau, gan ddangos eu dealltwriaeth o sefyllfa busnes go iawn.
Meddai Dr James Intriligator, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg Defnyddwyr yn Ysgol Seicoleg y Brifysgol,
鈥淢ae鈥檙 brifysgol yn rhoi pwyslais arbennig ar gyflogadwyedd a bydd y sgiliau a enillir wrth gymryd rhan yn y digwyddiad hwn yn fuddiol iawn i鈥檙 myfyrwyr pan fyddant yn ymgeisio am swyddi ar 么l graddio. Roedd hwn yn gyfle gwych i鈥檔 myfyrwyr ddangos eu harbenigedd a鈥檜 creadigrwydd ac i gael profiad ymarferol o bob agwedd ar farchnata. Rwy鈥檔 gwybod bod ein myfyrwyr eisoes wedi elwa o鈥檙 profiad."
Dywedodd Sara Parry, Darlithydd Marchnata yn Ysgol Busnes Bangor, 鈥 Roedd y gystadleuaeth yn gyfle gwych i鈥檔 myfyrwyr ddefnyddio eu sgiliau academaidd.鈥
Enillwyd y gystadleuaeth y llynedd gan d卯m o Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor gyda Dr Intriligator yn eu mentora.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Chwefror 2013