Myfyrwraig o Fangor yn ennill Gwobr Nyrs y Flwyddyn
Mae myfyrwraig o Brifysgol Bangor wedi ennill Gwobr o bwys sydd yn dathlu ei llwyddiannau neilltuol a鈥檌 phroffesiynoldeb
Stephanie Morris, myfyrwraig Nyrsio Oedolion yn ei thrydedd flwyddyn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yw Nyrs dan Hyfforddiant y Flwyddyn 2016, y Coleg Nyrsio Brenhinol.
Dywedodd yr Athro Chris Burton, Pennaeth yr Ysgol, wrth longyfarch Stephanie:
鈥淢ae Stephanie yn enghraifft wych o鈥檙 ansawdd uchel o fyfyrwyr sy鈥檔 cael eu denu i astudio ym Mangor oherwydd enw da ein rhaglenni Nyrsio, ac sydd yna鈥檔 mynd yn ei blaenau i chwarae rhan bwysig wrth ddarparu gofal iechyd ar draws gogledd Cymru a thu hwnt. Mae鈥檙 Wobr o bwys yn adlewyrchu ei gwaith caled a鈥檌 hymroddiad wrth gyfrannu mwy na sydd ei hangen. Mae鈥檙 ffaith mai dyma鈥檙 ail dro i un o fyfyrwyr y Brifysgol ennill y Wobr yn dweud cyfrolau am agwedd ein myfyrwyr. Llongyfarchiadau i Stephanie. Yr her i bawb arall yw a allwn ni ennill trydedd Wobr yn 2017!鈥
Meddai Stephanie:
鈥淩wyf wrth fy modd fy mod wedi ennill Gwobr Myfyriwr y Flwyddyn. Roedd yn fraint cael bod ymysg cymaint o nyrsys ysbrydoledig yn ystod y noson. Yn ogystal 芒 bod yn gyrhaeddiad personol, roedd ennill hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o ddigartrefedd ac iechyd, sydd yn bwnc o bwys i mi. Rwy鈥檔 gobeithio y bydd hyn yn annog newid ar gyfer y gymuned ddigartref ac rwy鈥檔 gobeithio parhau gyda鈥檓 gwaith i wella ansawdd gofal iechyd i鈥檙 gr诺p bregus hwn.鈥
Ychwanegai Stephanie: 鈥淢ae fy mhrofiadau ym Mhrifysgol Bangor wedi bod yn wych. Rwyf wedi derbyn cefnogaeth gan d卯m o ddarlithwyr anhygoel yng Nghampws y Brifysgol yn Wrecsam ac mae fy nhiwtor personol, a enwebodd fi wedi bod yn neilltuol. Rwy鈥檔 falch cael bod yn rhan o Brifysgol Bangor ac yn gobeithio y bydd hyn yn symbylu myfyrwyr nyrsio eraill i fanteisio ar yr holl gyfleoedd gwych sydd ar gael.鈥
Daw Stephanie, sydd yn 26 o Knokin ger Croesoswallt ac mae hi鈥檔 rhiant sengl. Mae hi'n defnyddio ei hamser hamdden yn gwirfoddoli drwy hwyluso dosbarth therapi celf i ddefnyddwyr gwasanaeth digartref mewn canolfan galw i mewn lleol i'r digartref. Mae'r gwaith hwn wedi cael ei ariannu fel project ymchwil gan y bwrdd iechyd lleol yn dilyn cystadleuaeth ar ffurf 'Dragon's Den', a'r nod yw gwella profiad pobl ddigartref o ofal trwy ddysgu nyrsys am ddigartrefedd er mwyn lleihau stigma a gwahaniaethu - gallwch ddilyn Stephanie yn Health4Homeless ar Twitter @smooey123.
Dywedodd John Alcock, tiwtor personol Stephanie, a'r sawl a'i henwebodd:
'Rwy'n adnabod Stephanie ers ei diwrnod cyntaf ar y cwrs ac mae'n amhosib peidio 芒 sylwi ar ei hegni a'i brwdfrydedd tuag at nyrsio a'i hawch am addysg, sy'n disgleirio o'i llygaid. Mae ei chydweithwyr i gyd yn dweud pa mor bositif ydy hi yn y gwaith a'i bod bob amser yn gefnogol wrth ddatrys problemau o ddydd i ddydd a materion mwy strategol yn yr Ysgol yn ymwneud 芒'r cwrs ac addysgu a dysgu yr ydym yn cydweithio 芒 myfyrwyr i'w datrys. Mae myfyrwyr a staff yn gweithio gyda'i gilydd i wella profiad y myfyrwyr ac i feithrin potensial ar gyfer twf a datblygiad y graddedigion nyrsio gorau posib. Mae Stephanie wedi cyfrannu'n aruthrol at ein cynorthwyo i gyrraedd y nodau hynny a thrwy hynny mae hi wedi dylanwadu ar ofal a phrofiad cleifion a defnyddwyr gwasanaeth."
Dyfarnwyd y Gwobrau mewn cinio gala Nyrs y Flwyddyn 2016, y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghaerdydd yn ddiweddar.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Tachwedd 2016