Myfyrwraig o Fangor ar restr fer Gwobr Nyrs y Flwyddyn
Mae Stephanie Morris, myfyrwraig yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd i'w llongyfarch ar gyrraedd rownd derfynol .
Mae Stephanie Morris yn fyfyrwraig ragorol ar y cwrs gradd BN Nyrsio Oedolion - efallai bod hyn yn ymadrodd ystrydebol, ond yn achos Stephanie, mae'n un hollol briodol. Dywedodd John Alcock, tiwtor personol Stephanie, a'r sawl a'i henwebodd:
'rwy'n adnabod Stephanie ers ei diwrnod cyntaf ar y cwrs ac mae'n amhosib peidio â sylwi ar ei hegni a'i brwdfrydedd tuag at nyrsio a'i hawch am addysg, sy'n disgleirio o'i llygaid' - unwaith eto, ymadroddion a geiriau ystrydebol efallai, ond maent yn hollol briodol i ddisgrifio'r rhinweddau sy'n ei gwneud hi'n fyfyrwraig nyrsio oedolion ragorol. Caiff enillwyr gwobrau'r Coleg Nyrsio Brenhinol eu dewis gan banel o feirniaid - ceir 17 o wobrau i gyd (yn cynnwys Nyrs y Flwyddyn Cymru) - sy'n cynnwys arweinwyr blaenllaw ym maes nyrsio ac arbenigwyr yn eu meysydd ymarfer.
Mae ei chydweithwyr i gyd yn dweud pa mor bositif ydy hi yn y gwaith a'i bod bob amser yn gefnogol wrth ddatrys problemau o ddydd i ddydd a materion mwy strategol yn yr ysgol yn ymwneud â'r cwrs ac addysgu a dysgu yr ydym yn cydweithio â myfyrwyr i'w datrys. Mae myfyrwyr a staff yn gweithio gyda'i gilydd i wella profiad y myfyrwyr ac i feithrin potensial ar gyfer twf a datblygiad y graddedigion nyrsio gorau posib. Mae Stephanie wedi cyfrannu'n aruthrol at ein cynorthwyo i gyrraedd y nodau hynny a thrwy hynny mae hi wedi dylanwadu ar ofal a phrofiad cleifion a defnyddwyr gwasanaeth."
Nid yw enw Stephanie yn ddieithr i dudalennau newyddion Prifysgol Bangor ac mae ei gwaith gwirfoddol mewn lloches i'r digartref wedi cael ei grybwyll yma o'r blaen. Mae hi'n defnyddio ei hamser hamdden i ymchwilio a chymryd rhan mewn projectau lleol i'r digartref. Ar hyn o bryd, mae Stephanie yn hwyluso dosbarth therapi celf i ddefnyddwyr gwasanaeth digartref mewn canolfan galw i mewn lleol i'r digartref. Mae'r gwaith hwn wedi cael ei ariannu fel project ymchwil gan y bwrdd iechyd lleol yn dilyn cystadleuaeth ar ffurf 'Dragon's Den', a'r nod yw gwella profiad pobl ddigartref o ofal trwy ddysgu nyrsys am ddigartrefedd er mwyn lleihau stigma a gwahaniaethu - gallwch ddilyn Stephanie yn Health4Homeless ar Twitter @smooey123.
Wrth ei henwebu, dywedodd Dr John Alcock bod 'Stephanie yn mynd i gynadleddau lleol a chenedlaethol ac yn cyflwyno ynddynt yn aml, er enghraifft yng nghynhadledd 1000 o Fywydau, gan siarad a chyflwyno gydag aeddfedrwydd, eglurder a sicrwydd yr wyf braidd yn genfigennus ohono. Mae hi wedi chwarae rhan bwysig fel ysgrifennydd wrth sefydlu Cymdeithas Nyrsio Prifysgol Bangor, sydd â'r nod o feithrin delwedd gadarnhaol o nyrsio ac addysg ochr yn ochr â chydnabod y potensial sydd gan fyfyrwyr i'w gynnig i'r proffesiwn, a'r gwobrau posib y gall gyrfa nyrsio ei gynnig i fyfyrwyr. Mae hi wedi cyflwyno gwaith ar y project EBCD a Chymdeithas y Myfyrwyr isod i gynulleidfaoedd mawr (400 a mwy) o gyfoedion a staff yr ysgol a'r bwrdd iechyd lleol yng nghynadleddau Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn 2014 a 2015, ac mae hi wedi cyflwyno dadl yn ystod cyngres 2016 y Coleg Nyrsio Brenhinol. Bu'n ysgrifennydd Gwasanaeth Gwella Ansawdd 1000 o Fywydau am ddwy flynedd ac yn arwain yr ymgyrch i gael bathodynnau enw i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, mae hi'n ymgyrchydd ar y cyfryngau cymdeithasol trwy gyfrwng Twitter, ac yn olaf (cymerwch anadl), mae hi'n aelod o Bwyllgor Myfyrwyr y Coleg Nyrsio Brenhinol yn cynrychioli Cymru ar fwrdd y DU.'
I gloi, mae hefyd yn werth sôn bod Stephanie yn rhiant sengl a'i bod wedi dechrau ei chwrs cyn bod ei merch yn flwydd oed, dyna ei llwyddiant mwyaf yn ei barn hi! Anfonodd Yr Athro Chris Burton, Pennaeth yr Ysgol, ei ddymuniadau gorau ati hi - 'Rydym i gyd yn dymuno'n dda iddi hi ac mae hi'n llawn haeddu ei henwebiad'. Caiff y gwobrau eu cyflwyno yng nghinio gala Nyrs y Flwyddyn 2016, y Coleg Nyrsio Brenhinol, sy'n dathlu nyrsio a bydwreigiaeth, nos Fercher 16 Tachwedd yng Nghaerdydd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2016