Myfyriwr nyrsio anabledd dysgu am wirfoddoli yn Ghana
Ar 28ain o Awst, 2017 bydd Iola Mair Morris myfyriwr nyrsio Anableddau Dysgu yn ei ail flwyddyn yn mynd i Ghana i wirfoddoli am bythefnos. Mae鈥檙 prosiect yn gofalu am bobl a phlant ag anabledd dysgu gyda chyfle i wirfoddoli mewn cartref i blant amddifad, ysgolion ac ysbytai.
Mae Iola yn edrych ymlaen at y cyfle: 鈥淩wyf yn edrych ar yr amser dramor fel ffordd i roi n么l, a fydd yn ffordd o gynnydd fy nealltwriaeth o鈥檙 byd o fy nghwmpas. Tra byddaf yn gwirfoddoli byddaf yn byw gyda theulu lleol. Credaf bydd y perthnasau hirdymor yr wyf yn gobeithio ei wneud gyda chyd-aelodau鈥檙 prosiect a鈥檙 teulu lleol, o werth mawr i mi, a gobeithio yn ogystal iddyn nhw. Ar ddiwedd fy nghyfnod gobeithiaf ddychwelyd gyda gwell dealltwriaeth o鈥檙 wlad a鈥檙 bobl.鈥
Bydd Iola yn gwirfoddoli gyda sefydliad o鈥檙 enw Project Abroad. Gafodd Project Abroad ei sefydlu yn 1992 gyda gwirfoddolwyr yn dysgu Saesneg yn Ddwyrain Ewrop. Erbyn hyn mae'r sefydliad wedi tyfu ac yn cefnogi gwirfoddolwyr mewn 25 o leoliadau o amgylch y byd. Bydd Iola yn ymuno a chymuned o 50,000 o wirfoddolwyr o鈥檙 gorffennol a鈥檙 presennol, sydd wedi rhoi eu hamser a鈥檜 hymdrech i eraill o amgylch y byd.
Bydd yr ymweliad 芒 Ghana yn rhoi cyfle i Iola fyw a gweithio mewn gwlad a diwylliant gwahanol. Mae yn gobeithio bydd ei sgiliau a鈥檌 gwybodaeth fel myfyriwr nyrsio anabledd dysgu yn ei galluogi i gyfrannu i ofal nyrsio unigolion yn Ghana. Er gredai Iola fydd gwirfoddoli yn sialens bersonol, mae鈥檔 gobeithio dysgu gan y teuluoedd lleol a鈥檙 nyrsys y bydd yn gweithio gyda. Yn olaf, mae Iola yn gobeithio bydd gwirfoddoli 鈥測n cyfoethogi fy mhrofiad a rhoi cyfle i mi fod yn berson gwell, gan obeithio bydd hefyd yn cefnogi fy nysgu ac ymarfer ym Mhrifysgol Bangor i鈥檓 galluogi i gymhwyso fel Nyrs Gofrestredig Anabledd Dysgu yn y dyfodol鈥.
Am fwy o wybodaeth am ei thaith i Ghana cysylltwch 芒: Iola Mair Morris, hsua25@bangor.ac.uk neu os hoffech gyfrannu i鈥檙 Prosiect yn Ghana:
Am fwy o wybodaeth am gwrs Baglor Nyrsio Anabledd Dysgu cysylltwch 芒: David Allsup, d.m.allsup@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2017