Morwyr ifanc yn serennu mewn ffilm newydd am fordaith anhygoel
Aeth mordaith pedwar diwrnod y tîm â nhw o Plymouth i’r dwyrain i Southampton ac o amgylch dyfroedd y Solent, oddi ar Ynys Wyth, fel rhan o daith a drefnwyd gan yr elusen iechyd meddwl Adferiad.
Fe’i gwnaed yn bosibl trwy grant gan Gronfa Ymyrraeth Gynnar Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru.
Lluniwyd , sy’n olrhain profiad morwrol y tîm gan Eternal Media ac fe’i dangoswyd am y tro cyntaf yn eu canolfan yn Wrecsam.
Daeth y pedwar dyn ifanc a gymerodd ran o Wrecsam, Ynys Môn, Bethesda a’r Rhyl gan ddod yn rhan o griw llong hwylio’r Faramir, llong hwylio 70 troedfedd o Ymddiriedolaeth Hwylio Cirdan.
Bu’r fordaith yn brofiad gwerthfawr iawn i’r morwyr ifanc.
Yn ymuno â nhw ar y fordaith yr oedd Daniel Bartlett, o Adferiad, a Dr Mike Jackson, seicolegydd clinigol ymgynghorol ym Mhrifysgol Bangor sydd wedi bod yn gweithio gyda’r elusen i ddarparu therapi antur i bobl ifanc â gorbryder a materion iechyd meddwl eraill.
Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru, Andy Dunbobbin: “Roedd yn gadarnhaol iawn gweld y canlyniadau i’r dynion ifanc a gymerodd ran a gallwch weld bod y cyfeillgarwch a ffurfiwyd gan y criw ar y môr yn parhau.
“Mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni adeiladu arno ac mae’n braf iawn gweld faint o wahanol bartneriaid sydd wedi dod at ei gilydd i wneud i hyn ddigwydd a phwysigrwydd adeiladu ar y gwaith hwn.
“Rydyn ni i gyd yn gwybod bod iechyd meddwl yn fater hynod bwysig ar hyn o bryd ac mae hon yn enghraifft o ffordd flaengar a chadarnhaol o gefnogi’r bobl ifanc hyn.
“Mae’n dangos bod angen i ni edrych ar ffyrdd amgen o’u helpu ac mae hon yn enghraifft dda iawn o’r cyfeiriad y dylen ni fynd.
“Mae’n bendant yn rhywbeth yr hoffwn ei gefnogi yn y dyfodol i adeiladu ar y gwaith gafodd ei wneud yma.
“Mae Adferiad wedi rhedeg hyn mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor ac rydym yn ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth a’r gwahaniaeth enfawr y mae’n ei wneud i fywydau’r bobl ifanc hyn.”
Dywedodd Byron Williams, 20 oed, o Langefni: “Ar y dechrau roeddwn yn negyddol iawn am y fordaith ond roedd llawer o bethau cadarnhaol ac mi wnes i fwynhau’r daith a bondio efo’r lleill yn fawr.
“Mi wnes i ddioddef salwch mor ar y dechrau ond unwaith i mi ddod dros hynny mi ges i afael ar bethau a mwynhau bob eiliad ond yn yr hwylio fwy na dim.
“Fe helpodd fy hyder i siarad Saesneg a chael fi allan o fy nghragen a gwneud i mi ryngweithio efo pobl eraill.
“Rwy’n fwy agored efo fy mrwydrau rŵan nag ar y dechrau ac mae wedi fy helpu i ddeall fy mywyd yn well a fy rhoi mewn lle gwell.”
Roedd Alun Griffiths, 26 oed, o Waunfawr, ger Bethesda, yn mynd ar ei drydedd fordaith ac meddai: “Roedd gen i ychydig o orbryder o hyd ac roeddwn i’n ansicr beth i’w ddisgwyl ond unwaith i mi fynd ar fwrdd y llong roedd yn hollol anhygoel.
“Mae’n rhaglen dda iawn, iawn ac mae’n brofiad rhy dda i’w golli a phob tro mae wedi fy helpu mewn gwahanol ffyrdd ac yn fy ngwneud i’n fwy hyderus a gallu ymdopi’n well.
“Roeddwn i’n cael trafferth bwyta a chysgu ac mae hyn wedi fy helpu. Mae’n rhoi golwg wahanol i chi ar fywyd. Does dim byd tebyg iddo.”
Dywedodd Tycjan Cholawo, 22 oed, o Wrecsam: “Roedd gen i deimladau cymysg i ddechrau oherwydd doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un ar y cwch ond unwaith roedden ni yno roeddwn i wir yn teimlo’n dda am y peth.
“Mae wedi fy helpu’n fawr. Dydw i ddim wedi teimlo’r un gorbryder ag yr oeddwn o’r blaen. Rydw i wedi gallu mynd yn ôl i’r gwaith unwaith eto.
“Fe wnes i ei fwynhau a gobeithio y caf gyfle i wneud hyn eto’r flwyddyn nesaf.”
Dywedodd Jake Cornhill, 21 oed, o’r Rhyl: “Rydw i wedi bod ar y daith hwylio o’r blaen ac ar y dechrau doeddwn i ddim eisiau mynd ond y tro hwn fe wnes i ei fwynhau’n arw ac mae wedi fy helpu’n fawr pan oeddwn i yno a rwan dwi’n ôl hefyd.
“Doeddwn i ddim yn adnabod unrhyw un o’r lleill ar y cwch ond fe wnaethon ni i gyd ddod ymlaen yn dda iawn ac mae wedi rhoi hwb hyder go iawn i mi.
“Rydw i eisiau gwneud rhywbeth gyda fy mywyd ac mae hyn wedi rhoi hwb gwirioneddol i mi mewn hyder.”
Dywedodd Dr Jackson, sy’n forwr brwd ei hun: “Mae hyn wedi rhoi cyfle i bobl ifanc sydd wedi bod yn ddisymud yn eu bywydau i daflu eu hunain i rywbeth cadarnhaol sy’n costio llai nag un noson mewn ysbyty seiciatryddol.
“Rydyn ni wedi darganfod ei bod hi’n anodd iawn gweithio ar y problemau hyn mewn ffordd draddodiadol a dyna pam rydyn ni wedi bod yn gwneud mwy o waith y tu allan a’u cael i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel hyn mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd.”
Dywedodd Daniel Bartlett: “Rydyn ni wedi defnyddio’r arian rydyn ni wedi’i dderbyn dros y tair blynedd diwethaf i redeg rhaglen antur a ddechreuodd ar raddfa fach ac rydyn ni wedi ei hadeiladu dros dair blynedd i gael mwy o brofiadau tebyg i hyn.
“Mae’n wych gallu helpu pobl ifanc sy’n dioddef o faterion seicolegol i ddelio â phrofiadau sy’n achosi straen.
“Rydym wedi gallu defnyddio’r arian gan y Comisiynydd Heddlu a Throsedd i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau o chwilota a beicio mynydd i badl-fyrddio ar Lyn Padarn i’r teithiau hwylio hyn.”
Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol BIPBC sy’n gyfrifol am wasanaethau iechyd meddwl: “Mae hon yn enghraifft wych o sut y gall meddwl y tu allan i’r bocs ac edrych ar ffyrdd amgen o ddarparu cymorth iechyd meddwl wneud gwahaniaeth go iawn. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, Adferiad a Phrifysgol Bangor am wneud hyn yn bosibl.”
Dyddiad cyhoeddi: 7 Ionawr 2022