Mae pobl Cymru am weld rhagor yn cael ei wneud i atal salwch a gwella eu hiechyd - hyd yn oed os yw'n golygu gwario llai ar ofal iechyd
Mae 53 y cant o bobl yng Nghymru yn cytuno y dylai mwy o arian gael ei wario ar atal salwch a llai ar ei drin. Dim ond 15 y cant a anghytunodd.
Canfu arolwg Cadw'n Iach yng Nghymru, a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor, fod gan y cyhoedd yng Nghymru yn gryf o blaid rhagor o reoleiddio ac ymyrryd iechyd cyhoeddus.
Mae canfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys:
- mae 70 y cant yn cytuno y dylai hysbysebu bwydydd afiach i blant gael ei wahardd er mwyn lleihau gordewdra ymhlith plant. Dim ond 13 y cant sy'n anghytuno.
- Mae bron hanner (47 y cant) yn cytuno y dylai hysbysebu alcohol gael ei wahardd er mwyn lleihau problemau alcohol. Dim ond 26 y cant sy'n anghytuno.
- Mae 82 y cant yn cytuno y dylai bwydydd iach gostio ychydig bach yn llai a bwydydd afiach gostio ychydig bach yn fwy. Dim ond 6 y cant sy'n anghytuno.
Cafodd yr arolwg Cadw'n Iach yng Nghymru ei greu i nodi'r hyn mae cyhoedd Cymru yn credu yw'r cyfranwyr mwyaf i iechyd cyhoeddus a llesiant, a pha gamau gweithredu iechyd cyhoeddus yr hoffent eu gweld yn cael eu gweithredu.
Tynnodd y cyhoedd sylw at smygu, camddefnyddio cyffuriau, camddefnyddio alcohol, anweithgarwch corfforol ac arferion bwyta afiach fel y pum cyfrannwr mwyaf at iechyd a llesiant gwael yng Nghymru; er bod materion eraill fel arwahanrwydd cymdeithasol, rhianta gwael ac anawsterau gyda mynediad i ofal iechyd wedi'u graddio'n uchel hefyd gan fwy na hanner y cyhoedd.
Dywedodd yr Athro Mark Bellis, Cyfarwyddwr Polisi, Ymchwil a Datblygu Rhyngwladol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Mae'r arolwg wedi nodi bod y cyhoedd yn deall achosion iechyd gwael yn eu cymunedau ac yn cytuno bod atal yn well na gwella.
鈥淢ae tystiolaeth yn dweud wrthym y bydd rheoliadau ac ymyriadau iechyd cyhoeddus cryfach yn creu cymdeithas iachach, hapusach a thecach. Mae'n bleser gennym fod pobl Cymru yn cydnabod y manteision hyn ac mae'r mwyafrif helaeth o blaid mwy o fesurau i ddiogelu eu hiechyd eu hunain a'u teuluoedd a ffrindiau.
鈥淣i yw un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i ofyn i'r cyhoedd pa fesurau maent yn teimlo sy'n angenrheidiol iddynt fyw bywydau iachach. Byddwn yn defnyddio'r ffynhonnell gyfoethog hon o wybodaeth i ddatblygu ein cynlluniau gwaith ar gyfer y degawd nesaf ac i helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r polis茂au iechyd cyhoeddus y mae pobl yn eu dymuno.鈥
Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru, Frank Atherton:
鈥淢ae hwn yn arolwg diddorol iawn sy'n dangos bod ymwybyddiaeth gref o faterion iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae hefyd yn dangos awydd clir am ymyriadau iechyd cyhoeddus i helpu i greu Cymru iachach. Bydd y canfyddiadau yn helpu i lywio a datblygu polis茂au Llywodraeth Cymru yn y dyfodol.鈥
Yn 么l y prif awdur, Catherine Sharp o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor:
鈥淒ros y blynyddoedd diwethaf, mae ymchwil o bob rhan o Gymru wedi edrych ar y mesurau y gellir eu defnyddio i wella iechyd a lles plant. Mae鈥檙 arolwg yma鈥檔 dangos fod y cyhoedd yng Nghymru鈥檔 gefnogol iawn i fesurau a fyddai鈥檔 golygu bod plant yn byw mewn cartrefi diogel, llawn cariad, bod ysgolion yn gallu helpu plant i fyw bywydau iachach a bod cyfyngu ar hysbysebu bwydydd afiach i blant er mwyn atal gordewdra.鈥
Cafodd yr arolwg hefyd gefnogaeth gref ar gyfer camau gweithredu penodol eraill i wella iechyd cyhoeddus, gan gynnwys:
- Mae 76 y cant yn cytuno y dylai cyflogwyr wneud mwy i ofalu am iechyd eu gweithwyr. Dim ond 8 y cant sy'n anghytuno.
- Mae 88 y cant yn cytuno y dylai ysgolion addysgu rhagor i blant am sut i fyw bywyd iach. Dim ond 5 y cant sy'n anghytuno.
- Mae tua thri chwarter (76%) yn cefnogi cyfyngiadau cyflymder 20mph lle byddant yn lleihau anafiadau traffig ffyrdd. Dim ond 12 y cant sy'n anghytuno.
Mae Cadw'n Iach yng Nghymru yn arolwg cynrychioliadol cenedlaethol a gyflwynwyd drwy holiadur 15 munud, a weinyddir yng nghartrefi pobl gan gyfweliadau wyneb yn wyneb. Roedd cyfranogwyr yn 16 oed a h欧n ac yn byw mewn ardaloedd o bob rhan o Gymru ac wedi'u dewis ar hap i ffurfio sampl gynrychioliadol o'r boblogaeth gyfan. Casglwyd data rhwng mis Medi a mis Hydref 2017. Cwblhawyd yr arolwg aelwyd gan sampl derfynol o 1,001 unigolyn yng Nghymru.
Gwnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd gynnal arolwg ar-lein a oedd yn agored i bob preswylydd yng Nghymru (16 oed a h欧n) a bydd y canlyniadau o hyn ar gael yn ddiweddarach yn 2018.
Dyddiad cyhoeddi: 16 Chwefror 2018