Mae Methodoleg Eusle o ddiddordeb yng Nghymru
Fis diwethaf bu myfyriwr ymchwil o Brifysgol Bangor, Arwel Tomos Williams, ar ymweliad byr â Chyngor Tref Lemoa lle cyfarfu â Gorka Barrenetxea, technegydd ar broject Aldahitz, ynghyd â phum aelod staff a oedd yn cymryd rhan yn y project. Mae Arwel yn ymddiddori mewn seicoleg ymddygiadol a'i nod yw llunio thesis ar gynyddu defnydd o'r Gymraeg mewn gweithleoedd dwyieithog.
Mae Arwel, ynghyd â'i oruchwylwyr, yn awyddus i weithredu rhywbeth tebyg i fethodoleg Eusle (y project Aldabitz) ym Mhrifysgol Bangor i weld a all arferion ieithyddol yn y gweithle dwyieithog newid, gan gynyddu defnydd o'r Gymraeg ymysg staff. Ar ôl i Arwel a'i oruchwylwyr ddod i wybod am sylfeini'r fethodoleg, ymwelodd Arwel â swyddfeydd Soziolinguistika Klusterra yn Andoain i gael trafodaeth faith â'r ymchwilwyr er mwyn cael dealltwriaeth ddyfnach o seiliau damcaniaethol ac ymarferol y project.
Yn ogystal cyfarfu Arwel â rhai o'r unigolion a gymerodd ran yn y project yng Nghyngor Tref Lemoa er mwyn cael mwy o wybodaeth ar sut i'w weithredu a sut mae'n gweithio, yn ogystal â chael sylwadau ansoddol gan y cyfranogwyr eu hunain. Yn y cyfarfod hwn bu Patxi Martinez mor garedig â chynnig ei sgiliau cyfieithu i helpu'r drafodaeth Basgeg-Saesneg rhwng Arwel a'r cyfranogwyr.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Chwefror 2017