Mae gan Fyfyrwyr Seicoleg Bangor Syniadau Mawr
Roedd dau entrepreneur uchelgeisiol o y Brifysgol ymysg dim ond 50 o bobl ifanc 16-24 oed o bob cwr o Gymru a ddewiswyd yn ddiweddar i gymryd rhan yn '.
Nod Her Syniadau Mawr Cymru yw darganfod entrepreneuriaid ifanc Cymru'r dyfodol a'u cefnogi.
Dewiswyd dau o fyfyrwyr Seicoleg Prifysgol Bangor yn ddiweddar i fynd i 'Wersyll Entrepreneuraidd' yng Ngwersyll Gwyliau Bluestone yn Sir Benfro.
Daeth Liam Meagher, 21, o Runcorn, sydd yn ei drydedd flwyddyn yn astudio Seicoleg Glinigol ac Iechyd, ar draws y cynllun ar Facebook. Ar y llaw arall clywodd Luke Cleverly o Worthing, myfyriwr Seicoleg ail flwyddyn, am y gystadleuaeth gyntaf drwy dîm Byddwch Fentrusy Brifysgol. Er bod eu syniadau'n wahanol iawn i'w gilydd, aeth y ddau fyfyriwr drwy glyweliad o fath Ffau'r Ddraig (Dragons Den) yn llwyddiannus yn Llandudno a chael lleoedd yn y gwersyll penwythnos.
Roedd y penwythnos yn cynnwys siaradwyr gwadd, darlithwyr a gweithdai wedi'u seilio ar sut i ddatblygu, cynnal ac, yn y pen draw, trawsnewid syniad yn fusnes llwyddiannus, go iawn a fyddai'n gwneud arian. Roedd yna gyfleoedd i gymysgu gyda llawer o entrepreneuriaid Cymreig a chael gwybodaeth werthfawr, manylion cyswllt ac addewidion pwysig o gefnogaeth gan y gwahanol fusnesau ar ffurf buddsoddi arian, amser neu brofiad gwaith. Yn dilyn yr achlysur cynhelir cyfarfod bwrdd bob mis gyda nifer o entrepreneuriaid ifanc eraill a mentoriaid busnes i asesu'r cynnydd a materion a all godi'n ddiweddarach.
Meddai Liam: "Roedd y profiad yn un hynod ddefnyddiol ac yn gryn ysbrydoliaeth ac rwyf yn falch iawn bod rhywbeth sydd wedi cael cymaint o ddylanwad cofiadwy ar fy mywyd wedi digwydd o ganlyniad i un o fy sesiynau cyson yn sgrolio drwy Facebook."
Mae syniad Liam yn enghraifft ragorol sut mae myfyrwyr yn ymwneud â'r gymuned leol. Bwriad The In Youth Revolution - TIYR - yw cael lle arbennig i'r bobl ifanc ym Mangor. Y nod yw rhoi cyfle i bobl ifanc fod yn gyfrifol am ran o'u cymuned drwy helpu i gynnal digwyddiadau cymdeithasol hwyliog a chymryd rhan ynddynt. Yn y cynllun yma mae manteision cymdeithasol yr un mor bwysig â rhai ariannol.
Nid yw Luke yn gallu trafod ei syniad eto oherwydd rhesymau masnachol. Dyma oedd ganddo fo i'w ddweud am y digwyddiad:
"Y peth mwyaf wnes i ei ddysgu o'r penwythnos ydi'r angen i entrepreneuriaid beidio â rhoi gormod o sylw i farn eraill. Ar ryw adeg neu'i gilydd roedd llawer ohonyn nhw'n cael eu hystyried yn wallgo' neu hyd yn oed yn fethiannau llwyr gan eraill o'u cwmpas, a phe baen nhw wedi gwrando ar y sylwadau negyddol hynny ni fyddant wedi cyrraedd lle maen nhw nawr. Yr ail beth pwysig iawn wnes i ei ddysgu yw nad oes neb wedi cyflawni unrhyw beth mawr heb weithio'n galed."
Meddai Liam ymhellach wrth sôn pam y dewisodd astudio ym Mangor:
"Fe wnes i ddewis Prifysgol Bangor oherwydd fy mod i wedi treulio llawer o fy llencyndod yng ngogledd Cymru yn cymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol a gweithgareddau ieuenctid gydag elusen o'r enw Young Life International. Roeddwn wrth fy modd yma ac fe wnes i syrthio mewn cariad efo'r wlad hynod hardd. Felly, pan oeddwn yn ystyried prifysgolion ar ddiwedd fy astudiaethau lefel A gan feddwl astudio seicoleg ymhellach (fy hoff bwnc lefel A a'r un y cefais y radd uchaf ynddo), fe wnaeth fy athrawes lefel A grybwyll ei bod hi'n arfer mynd i Brifysgol Bangor. Fe wnes innau wneud tipyn o ymchwil bellach a gweld ei bod yn un o'r sefydliadau mwyaf blaenllaw yn y maes seicolegol. Felly, ar ôl un ymweliad i ddiwrnod agored yma a chyflwyniad hynod ddifyr ar astudio ym Mangor gan Guillaume Thierry, doedd gen i ddim amheuon i ble roeddwn eisiau mynd."
Meddai Luke: "Fe wnes i ddewis Prifysgol Bangor oherwydd enw da ei hadran seicoleg, sy'n un o'r rhai gorau yn y wlad, ei lleoliad ar drothwy mynyddoedd Eryri a maint y dref, sy'n golygu y gallaf dreulio amser yn gwneud fy hoff hobïau (codi pwysau, darllen etc.) yn hytrach na gorfod teithio ar gludiant cyhoeddus i fynd i ddarlithoedd yn y brifysgol."
Dyddiad cyhoeddi: 5 Chwefror 2014