Llwyddiant y Siop Bwydydd Hyll
Mae'r 'Siop Bwydydd Hyll' sydd wedi cael ei rheoli a'i rhedeg gan fyfyrwyr Prifysgol Bangor am y pedair wythnos ddiwethaf wedi bod yn llwyddiant mawr.
Mewn cydweithrediad â Chyngor Dinas Bangor defnyddiodd y tîm brwdfrydig a mentrus o fyfyrwyr eu creadigrwydd a'u craffter busnes i roi eu syniad ar waith yn fasnachol. Gwerthodd y tîm ffrwythau a llysiau a wrthodir gan archfarchnadoedd oherwydd eu maint neu ymddangosiad afreolaidd, ond sydd yn hollol iach a maethlon fel arall. Rhoddodd y siop gyfle i gwsmeriaid achub y nwyddau hyn rhag cael eu taflu i'r domen sbwriel a'u prynu'n rhatach nag y gallent eu cael gan werthwyr arferol. Roedd y nwyddau a gynigid yno'n cynnwys 'Cawl mewn Sach' a smwddis ffres, yn ogystal â ffrwythau a llysiau rhydd.
Rhoddodd y siop hwb newydd i Ganolfan Siopa Deiniol ym Mangor, yn ogystal â galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau menter a chyflogadwyedd allweddol a fydd yn hynod werthfawr iddynt ym myd gwaith. Nid oedd y sgiliau a ddatblygwyd yn gyfyngedig i bethau fel prisio a gwerthu, ond yn cynnwys ystod lawn o sgiliau masnachol eraill, fel gweithio mewn tîm, datrys problemau, gwasanaeth cwsmeriaid a marchnata, i enwi ond ychydig.
Meddai Gwyn Hughes, Clerc Cyngor Dinas Bangor: "Fel rhan o'n menter barhaus i adfywio'r Stryd Fawr, rydym yn hynod falch o weithio'n agos gyda Phrifysgol Bangor ar syniadau arloesol i gynnig profiad gwahanol i siopwyr yng nghanol dref na fyddent yn ei gael yn rhywle arall."
Roedd yr ymateb gan gwsmeriaid i’r siop yn bositif iawn hefyd ac oherwydd llawer o alw bwriedir i'r siop ail-agor ei drysau ym Medi 2015, gyda myfyrwyr yn edrych ymlaen at ddatblygu'r brand Bwydydd Hyll ymhellach.
Dywedodd Dan Taylor, myfyriwr ôlraddedig o’r Ysgol Seicoleg a oedd yn rheoli’r shop “mae’r siop wedi dysgu llawer i mi am y potensial sydd gen i of fod yn mentrwr yn y dyfodol. Dwi wedi dysgu cymaint wrth fynd trwy'r broses o ddod i fynu efo’r syniad i’w weithredu a rheoli staff. Mae o wedi bod yn brofiad gwerthfawr a rwy’n falch o fod wedi bod yn rhan o fenter sydd wedi gallu cyfarfod galwad yn y gymuned.
Cafodd Dan a Rhi Willmot, eto o’r Ysgol Seicoleg, eu gwahodd yn ddiweddar i gael stondin Bwydydd Hyll yn y gynhadledd Wythnos Caffaeliad yng Nghaerdydd ac fe wnaethant gyflwyno yn y digwyddiad Gwobrau Entrepreneuriaeth Santander yn y Brifysgol.
Dywedodd Matt Lobo, israddedig o Ysgol y Gyfraith a oedd yn gweithio yn y siop “Mae wedi bod yn brofiad da i weld sut mae busnes yn gweithio. Dwi wedi dysgu llawer o sgiliau trosglwyddadwy y gallai ddefnyddio mewn agweddau eraill o waith a bywyd pob dydd.â€
Ychwanegodd Emma Cheeseman, myfyrwraig ail flwyddyn o’r cwrs Dylunio Cynnyrch “Mae gweithio yn y siop Bwydydd Hyll wedi rhoi mewnwelediad i’r gwaith cefndir sydd yn gorfod mynd ymlaen i redeg busnes, o drosgwlyddo nwyddau i cofnodi llyfrau. Mae o hefyd wedi rhoi’r cyfle cynta i mi o redeg tîm ac wedi bod yn brofiad ardderchog.
Mae'r tîm Byddwch Fentrus, a helpodd i gydlynu'r fenter hon, yn dra diolchgar i Gyngor Dinas Bangor am roi'r cyfle hwn i fyfyrwyr Prifysgol Bangor, ac i Lywodraeth Cymru am helpu i gyllido'r fenter.
Dywedodd Lowri Owen o’r Rhaglen Byddwch Fentrus “Mae’r cyllid wedi galluogi i’r myfyrwyr gael profiad o beth mae fel i ddatblygu syniad a’r redeg fel busnes go iawn am fis. Mae pawb wedi dysgu llawer o’r profiad a dwi siŵr y bydd y myfyrwyr yn gallu defnyddio’r sgiliau menter a cyflogadwyedd maent wedi datblygu yn y dyfodol.
Gall unrhyw un sydd eisiau cysylltu â'r tîm Bwydydd Hyll yn y cyfamser fynd i'w tudalen Facebook: theuglyfoodsshop
Cefnogir rhaglen Prifysgol Bangor gan gyllid o Ganolbwynt Rhanbarthol Gogledd Orllewin Cymru, a gyllidir yn rhannol gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru i weithredu'r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2015