Llwyddiant myfyrwyr nyrsio: Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg
Llongyfarchiadau i un ar ddeg o fyfyrwyr nyrsio am lwyddo i ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg a ddyfarnwyd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd y myfyrwyr yn derbyn eu tystysgrifau mewn seremoni i’w gynnal ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd brynhawn Mercher, 8 Awst 2018.
Mae’r Dystysgrif yn dangos tystiolaeth o sgiliau iaith y myfyrwyr a’u gallu i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Yng nghyd-destun dwyieithog Cymru, dim ond drwy gyfrwng y Gymraeg y gall llawer o bobl egluro’n effeithiol beth yw eu hanghenion gofal. Drwy ddod â’r Gymraeg yn elfen allweddol o addysg gofal iechyd mae yn ffordd o baratoi gweithlu’r dyfodol gyda’r wybodaeth, sgiliau a’r agweddau priodol er mwyn darparu ‘cynnig rhagweithiol’ o wasanaethau dwyieithog. Ceir mwy o wybodaeth am beth yw'r Dystysgrif Sgiliau Iaith ar wefan y :
Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr canlynol:
Heledd Non Evans - Clod
Aaron Glyn Hughes - Llwyddo
Catrin Elain Jones - Rhagoriaeth
Lliwen Angharad Jones - Llwyddo
Enid Mai - Clod
Emyr Payne - Llwyddo
Caitlin L. Rees - Llwyddo
Heledd Bronwen Roberts - Clod
Gaynor I. Semmens - Llwyddo
Gwennan Williams - Clod
Manon Wyn Williams - Llwyddo
Am fwy o wybodaeth am ddarpariaeth Cymraeg yn yr ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd cysylltwch â Beryl Cooledge, Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd: b.cooledge@bangor.ac.uk
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mehefin 2018