Hyfforddi'r meddwl drwy fyfyrio ymwybyddiaeth ofalgar yn meithrin lles gydol oes
Gall ymwybyddiaeth ofalgar, sy'n helpu pobl newid y ffordd y maent yn meddwl a theimlo ynghylch eu profiadau, fod yn ddefnyddiol i bobl ar wahanol gyfnodau o'u bywydau. Wedi'i addasu fel Therapi Gwybyddol ar Sail Ymwybyddiaeth Ofalgar (MBCT) gall gynorthwyo pobl sy'n ymdopi ag amrywiaeth o anawsterau.
Eglurwyd hynny gan Rebecca Crane o Prifysgol Bangor: "Mae yna ddiddordeb cryf yn y potensial i unigolion a chymdeithas fyw mewn ffyrdd mwy tosturiol, gan fyw'r bywydau sydd gennym yn llawnach yn hytrach na defnyddio'n hegni ar syniadau o sut y gallai pethau fod, a dod â mwy o garedigrwydd i'r ffordd rydym yn ymdrin â ni'n hunain a'r byd o'n cwmpas."
Mae Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar Prifysgol Bangor yn ymwneud ag ymchwilio i'r pethau sy'n hwyluso a rhwystro defnyddio hyfforddiant ymwybyddiaeth ofalgar yn y Gwasanaeth Iechyd, yn ogystal â'i effeithiolrwydd mewn lleoliadau eraill.
Meddai Rebecca Crane: "Er bod MBCT wedi cael ei argymell gan NICE er 2004, nid yw'r therapi ar gael yn helaeth yn y Gwasanaeth Iechyd ac mae'r ddarpariaeth yn dibynnu'n union ym mha ran o Brydain rydych yn byw. Ymysg ein gwaith ymchwil presennol, rydym yn edrych ar bosibilrwydd cynnig hyfforddiant ar ymwybyddiaeth ofalgar yn y GIG i bobl sy'n dioddef o ganser a'u gofalwyr, er mwyn eu cefnogi gyda sialensiau seicolegol byw gyda chanser."
Mae Prifysgol Bangor yn awr yn cynnal "Ymwybyddiaeth Ofalgar mewn Cymdeithas" yng Nghaer ar 22-26 Mawrth. Mae cyflwyniadau yn y gynhadledd yn dangos sut yr ymchwilir i ymwybyddiaeth ofalgar a'i dysgu mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau cymdeithasol.
Mae gan Chris Ruane, AS Dyffryn Clwyd, ddiddordeb yn y ffordd y defnyddir Ymwybyddiaeth Ofalgar. Meddai: "Mewn atebion a gefais i gwestiynau a ofynnais yn ddiweddar yn y Senedd gwelwyd bod presgripsiynau am gyffuriau rhag iselder wedi codi'n syfrdanol o 9 miliwn yn 1991 i 47 miliwn yn 2011, a bod 32.3% o bobl ifanc rhwng 16 a 25 yn dioddef oddi wrth un neu fwy o gyflyrau seiciatrig. Mae'r rhain yn ystadegau gwirioneddol frawychus. Mae Ymwybyddiaeth Ofalgar wedi cael ei chymeradwyo gan y National Institute for Clinical Excellence er 2004. Nid oes ganddi unrhyw sgil-effeithiau, mae'n rhoi'r unigolyn mewn rheolaeth dros y sefyllfa ac mae'n driniaeth ratach na chyffuriau rhag iselder. Eto i gyd, dim ond 5% o feddygon teulu sy'n cyfeirio cleifion i gael y driniaeth hon. Rwy'n gobeithio y bydd y gynhadledd hon yn rhoi sylw i botensial ymwybyddiaeth ofalgar i rai sy'n dioddef oddi wrth salwch meddwl ac fel ffordd o ddod â ffyniant a lles i'r boblogaeth yn gyffredinol."
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mawrth 2013