Helpu Huw â Her y Copaon
Mae sawl aelod o staff yr Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer (Dr Ross Roberts, Dr Stuart Beattie, Dr James Hardy, Dr Eleri Jones, Dr Anthony Blanchfield, Dr Andy Cooke a Kevin Williams) wedi bod yn cynorthwyo anturiaethwr lleol i gyflawni her eithriadol ar hyd copaon Eryri.
Heriodd yr anturiaethwr lleol Huw Jack Brassington ei hun i gwblhau Cylchdaith Paddy Buckley yn ystod yr haf eleni. Bydd ei daith i’w gweld ar sef cyfres deledu bum rhan a ffilmiwyd gan Gwmni Da ac a fydd yn cychwyn ar S4C nos Fercher 6 Tachwedd.
Mae her Paddy Buckley yn golygu cyrraedd 47 o gopaon Eryri yn eu tro, sy’n daith o tua 100 km gyda 8,000 medr o ddringo, sydd bron yn gyfystyr â dringo i gopa Everest, a hyn i gyd mewn 24 awr.
Fel rhan o’i baratoadau at yr her, daeth Huw i’r Ysgol fis Gorffennaf i gymryd rhan mewn profion ffisiolegol a seicolegol i ddeall yn well sut i ymdopi ag ofn, sut i wrthsefyll poen ac i ddeall hyd a lled ei ffitrwydd corfforol.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Tachwedd 2019