Hanes byr o'r Cysyniad Trothwy Anaerobig
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Dr Aamer Sandoo erthygl A-Z yng Nghyfnodolyn Iechyd a Ffitrwydd Coleg Meddygaeth Chwaraeon America (American College of Sports Medicine Health and Fitness Journal) (rhifyn Mai / Mehefin 2021). Teitl yr erthygl yw ‘A Brief History of the Anaerobic Threshold Concept’ ac fe’i comisiynwyd yn arbennig gan y Journal mewn ymateb i fideo am yr un pwnc ar sianel YouTube boblogaidd Aamer, ‘Physiology Made Easy with Dr Aamer Sandoo’. Dywedodd Aamer: “Mae'r erthygl yn cyflwyno trosolwg cynhwysfawr o'r cysyniad trothwy anaerobig, defnyddio'r prawf mewn sefyllfaoedd clinigol a chwaraeon, ac awgrymiadau ymarferol i'w mesur yn y labordy a'r maes. Bydd yr erthygl o fudd mawr i weithwyr proffesiynol iechyd a ffitrwydd trwy ddarparu trosolwg diweddar iddynt o'r pwnc ac ymestyn y wybodaeth a gyflwynwyd yn wreiddiol yn y fideo YouTube ”.
Gellir cyrchu'r erthygl
Gellir cyrchu'r fideo yma: a
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mehefin 2021