Gwyddonwyr yn asesu potensial gwahanol ddiodydd o ran hydradu
Mae gwyddonwyr ym mhrifysgolion Stirling, Loughborough a Bangor yn galw am greu mynegai hydradiad i ddiodydd er mwyn helpu pobl i ddeall sut y gall gwahanol ddiodydd sicrhau bod gennych ddigon o hylif yn eich corff.
Fe ddarganfu prawf ymchwil diweddar a brofodd effeithiau 13 o ddiodydd cyffredin ar gynhyrchu wrin a chydbwysedd hylifau, bod amryw o hylifau'n cael eu cadw yn yr corff am yr un amser â dŵr, os nad yn hirach na hynny.
Meddai un o'r prif awduron, Dr Stuart Galloway o Grŵp Ymchwil Gwyddorau Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Stirling: "Aethom ati i weld sut mae gwahanol hylifau'n effeithio ar lefelau hydradiad pobl o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, rydym wedi helpu hefyd i chwalu rhai mythau'n ymwneud â dadhydradu'n dilyn yfed rhai diodydd, o leiaf pan yfir hwy mewn symiau rhesymol."
Eglurodd Yr Athro Neil Walsh o Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer y Brifysgol: "Mae llawer o bobl yn credu bod yfed hylifau fel te a choffi'n achosi iddynt ddadhydradu, ond fe wnaethom ni ddarganfod nad yw yfed symiau arferol o'r hylifau hynny yn ysgogi unrhyw golli hylifau ychwanegol o'i gymharu ag yfed dŵr."
Fe wnaeth rhai a gymerodd ran yn yr ymchwil yfed un litr o hylif dros gyfnod o 30 munud a chasglodd yr ymchwilwyr yr wrin a gynhyrchwyd ganddynt dros y pedair awr ddilynol i fonitro cydbwysedd halen yn y corff a gweld pa hylifau oedd yn cael eu cadw hiraf yn y corff.
Roedd yr hylifau a yfwyd yn cynnwys dŵr llonydd, dŵr perfriog, llefrith cyflawn, llefrith sgim, cola, diet cola, te poeth, te oer, coffi, lager, sudd oren, hylif ailhydradu arbennig, a diod chwaraeon.
Ychwanegodd Dr Galloway: "Yn ein harbrawf, fe wnaeth yfed llefrith neu hylif hydradu arbennig helpu pobl i gadw traean yr hylif roeddent wedi ei yfed dros gyfnod dilynol o ddwy awr ac fe wnaethant barhau wedi'u hydradu am dros bedair awr.
"Pe bai hyn yn cael ei osod mewn mynegai yn nesaf at ddŵr a diodydd eraill, gall helpu pobl i wneud penderfyniadau gwell ynghylch yr hylifau y maent yn eu hyfed. Yn arbennig, mae hyn yn berthnasol i bobl sydd eisiau aros wedi'u hydradu ond nad ydynt yn medru cymryd seibiannau cyson i fynd i'r toiled, neu nad oes hylifau ar gael iddynt yn gyson drwy gydol eu diwrnod."
Ceir mwy o wybodaeth am yr ymchwil i'r mynegai hydradu yn "" am 9pm ddydd Iau, 2 Mehefin ar BBC One.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2016