Gwyddonwyr Chwaraeon o Brifysgol Bangor yn taro鈥檙 nodau uchaf
Weithiau, mae tri academydd o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor yn gwisgo het hollol wahanol 鈥 pan na fyddant yn darlithio wrth fyfyrwyr yngl欧n 芒 gwyddor chwaraeon, maent yn chwarae mewn band gyda Sarah Louise Owen, cantores-gyfansoddwraig leol sydd 芒 gradd o Fangor.
Ar ben hynny, buont yn chwarae鈥檔 ddiweddar yn ystod ymweliad tra phoblogaidd a llwyddiannus Mumford & Sons 芒 Llandudno, ac yn ategu perfformiadau Olly Murs a Pixie Lott yng ngig ddiweddar Access All Eirias a gynhaliwyd ym Mae Colwyn.
Mae鈥檙 darlithwyr Gwyddor Chwaraeon Ross Roberts, Stuart Beattie a Gavin Lawrence yn chwarae gyda Sarah Louise Owen ers ychydig flynyddoedd ac, yn yr amser a oedd yn arwain at ryddhau ei phedwerydd albwm Dreamcatcher, a aeth ar werth ar 26 Tachwedd, aeth y gigiau鈥檔 fwy ac yn well.
Meddai Ross, sy鈥檔 byw yn Rachub, ger Bethesda, 鈥淩oedd gig Access All Eirias yn wych, o ran cael chwarae ar lwyfan mor fawr, a chawsom noson wych yn ddiweddar hefyd, yn un o brif eitemau G诺yl Conwy 鈥 roedd y dorf yn fendigedig!鈥
鈥淏yddwn yn disgrifio cerddoriaeth Sarah fel rhywbeth eithaf gwerinaidd, eithaf popaidd ac eithaf gwladaidd ar yr un pryd. Ceir cymysgedd da o faledi cymharol araf ac eitemau cyflymach i ddawnsio iddynt, felly, at ei gilydd, mae鈥檔 noson dda allan!鈥
Meddai鈥檙 gitarydd Stuart, o鈥檙 Felinheli, 鈥淵n ddi-os, Access All Eirias oedd y gyngerdd fwyaf eto. Mae Sarah a minnau hefyd wedi recordio cyfres acwstig ar gyfer BBC Radio Wales, a hi oedd artist Cymreig y flwyddyn yr wythnos ddiwethaf! Rydym hefyd wedi cael gwahoddiad yn 么l i stiwdios S4C ym mis Chwefror ar gyfer recordiad arall ar sioe gerddoriaeth Gymraeg newydd, felly mae鈥檙 cyfan yn mynd yn wirioneddol.鈥
Ychwanegodd y drymiwr, Gavin, o Lanberis, 鈥淩oedd yn brofiad gwych. B没m yn ddigon lwcus i gael chwarae mewn lleoliadau mawr o鈥檙 blaen, mewn bandiau gwahano, ond hwn oedd y gig 鈥榤awr鈥 cyntaf, felly roedd yn brofiad newydd clywed y gerddoriaeth mewn lleoliad mawr.鈥
Mae uchafbwyntiau eraill yn cynnwys aros mewn castell a mynd trwy鈥檙 broses o recordio gyda鈥檌 gilydd.
Ychwanegodd Ross, sy鈥檔 chwarae鈥檙 piano, 鈥淚 mi, mae cael hwyl gyda fy ffrindiau wrth chwarae fy mhiano yn un o brif uchafbwyntiau chwarae. Rydym wedi cael rhai gigiau gwych mewn gwahanol rannau o鈥檙 DU ac Ewrop, ac roedd cael gwahoddiad i chwarae mewn priodas yn Toscana yr haf diwethaf yn brofiad rhyfeddol o wych, yn enwedig bwrw鈥檙 Sul mewn castell!鈥
Ychwanegodd Stuart, 鈥淢ae recordio ar albwm diweddar Sarah a chael cyfle i benderfynu yngl欧n 芒 pha ganeuon oedd i鈥檞 cynnwys yn yr albwm a鈥檜 mireinio wedi bod yn uchafbwynt. Mynd trwy鈥檙 broses o recordio a chlywed y recordiad ar ei ffurf derfynol oedd y profiad gorau o bell ffordd.鈥
Meddai Sarah, 鈥淩wy鈥檔 chwarae gigiau acwstig gyda Stu ers 6 neu 7 mlynedd, ac ers ychydig yn llai o amser gyda鈥檙 lleill. Mae鈥檙 chwe mis diwethaf wedi bod yn wych, gan chwarae fy nghaneuon o鈥檙 albwm yn fyw gyda鈥檙 hogiau, a gweld y cyfleoedd a鈥檙 llwyfannau鈥檔 mynd yn fwy ac yn well. Maen nhw鈥檔 griw gwirioneddol dda o bobl ac rwy wrth fy modd yn eu cwmni ar y llwyfan.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 6 Rhagfyr 2012