Gwobrwyo cyfraniad at wyddorau chwaraeon ac ymarfer
Mae Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Prydain (British Association of Sport and Exercise Sciences, neu ) yn falch o gael anrhydeddu Stuart Beattie, Darlithydd mewn Seicoleg Chwaraeon yn Ysgol Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer Prifysgol Bangor ac aelod o’r Sefydliad Ymarfer Elît, gyda Chymrodoriaeth BASES i gydnabod ei gyraeddiadau proffesiynol gwerthfawr, ei sgiliau, ei wybodaeth a’i wasanaeth i BASES a’r gymuned gwyddorau chwaraeon ac ymarfer.
BASES yw’r prif gorff proffesiynol dros wyddorau chwaraeon ac ymarfer yn y DU.
Dim ond criw dethol o wyddonwyr chwaraeon ac ymarfer sydd wedi derbyn Cymrodoriaeth BASES ers sefydlu’r corff yn 1984. Dyfernir Cymrodoriaethau i’r aelodau hynny sydd wedi dangos angerdd ac ymrwymiad i BASES a gwyddorau chwaraeon ac ymarfer. Gall y rhai sy’n derbyn Cymrodoriaeth ddefnyddio FBASES ar ôl eu henwau a bod yn arweinwyr a llysgenhadon dros y Gymdeithas.
Bydd y cyrhaeddiad yn cael ei nodi yn ystod Cinio Cynhadledd 2016 ar nos Fawrth 29 Tachwedd yn yr East Midlands Conference Centre.
Meddai’r Athro Nicky Callow, Deon y Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad: “Mae Stuart yn llwyr haeddu’r Gymrodoriaeth hon. Mae wedi gwneud cyfraniad gwych i wyddorau chwaraeon ac ymarfer drwy ei waith ymchwil ei hun a thrwy ei gefnogaeth ac anogaeth i fyfyrwyr dros y blynyddoedd.â€
Meddai Dr Keith Tolfrey, Cadeirydd BASES: “Rwyf yn falch o weld cymaint o wyddonwyr chwaraeon ac ymarfer yn derbyn cydnabyddiaeth am eu cyfraniadau neilltuol i BASES a’r gymuned gwyddorau chwaraeon ac ymarfer. Mae’r gwobrau wedi eu hennill drwy waith caled ac mae pob un yn eu haeddu yn llwyr.â€
Yn gynharach eleni, trefnodd Dr Beattie Gynhadledd Flynyddol Myfyrwyr BASES. Gweler (dolen i’r stori). Mae’n ymuno â’r Athro Lew Hardy o’r Ysgol a sawl cyn-aelod o staff yr Ysgol sydd hefyd yn Gymrodorion BASES. Mae rhestr lawn ar gael yma: www.bases.org.uk/Fellowships
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2016