Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr 2015
Cynhaliwyd y seremoni flynyddol yn dyfarnu Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr ynghyd â gwobrwyo Cynrychiolwyr Cwrs am y bedwaredd tro yn ddiweddar.
Trefnir y digwyddiad gan Undeb y Myfyrwyr ac mae'r Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu cefnogaeth a'u gwerthfawrogiad o'r staff sydd wedi gweithio’n galed a dangos ymroddiad drwy gydol cyfnod y myfyrwyr ym Mangor. Gyda dros 300 o enwebiadau ar draws 11 categori eleni, mae'n amlwg bod myfyrwyr y brifysgol yn cydnabod y cyfraniad gwych gan aelodau staff ar draws pob gwasanaeth ac ysgol academaidd.
Dywedodd Lydia Richardson, Is-lywydd Addysg a Lles Undeb Myfyrwyr Bangor: "Rydym wedi gweld llawer o enwebiadau gwych eleni. Mae hyn yn dangos bod y profiad a’r gefnogaeth a roddir gan ein staff heb ei ail. Mae’r gwobrau yn dangos yn glir bod myfyrwyr yn gwerthfawrogi’r ymdrech a roddir gan staff i’w darlithoedd, adborth, cymorth ac arweiniad. Heb unrhyw amheuaeth, edrychir ymlaen at y gwobrau ac maent yn un o’r digwyddiadau sy’n rhoi mwynhad mawr yn ystod y flwyddyn.â€
Dywedodd yr Athro Carol Tully, Dirprwy Is-ganghellor: "Mae'r Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr yn prysur datblygu i fod yn un o draddodiadau Bangor, ac un a gaiff ei werthfawrogi gan fyfyrwyr a staff. Mae'n wych gweld cymaint o staff yn cael eu cydnabod. Rydym yn ffodus iawn i gael cymaint o unigolion ymroddedig sy'n mynd i drafferth mawr i sicrhau’r profiad gorau posib i fyfyrwyr ym Mangor. Mae'n wych gallu dathlu hyn ynghyd â'r Gwobrau Cynrychiolwyr Cwrs. Mae ein myfyrwyr yn gweithio'n galed i’n helpu i wella pethau ar gyfer eu cyd fyfyrwyr, ac mae’r brifysgol yn gwerthfawrogi eu hymdrechion yn fawr iawn".
Llongyfarchiadau i’r enillwyr haeddiannol iawn yn 2015:
Gwobr Cefnogaeth Fugeiliol Eithriadol | Gillian Griffith, Ysgol Cerddoriaeth |
Gwobr am Hyrwyddo Addysg Cyfrwng-Cymraeg | Peredur Webb-Davies, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg |
Gwobr Ryngwladol | Stephen Clear, Ysgol y Gyfraith |
Goruchwylydd Traethawd Hir/Thesis y Flwyddyn | Nia Whiteley, Ysgol Gwyddorau Biolegol |
Aelod o Staff Cefnogi’r Flwyddyn | Elizabeth Williams, Ysgol Seicoleg |
Gwobr Adran Gwasanaethau Myfyrwyr | Kate Tindle, Gwasanaeth Cynghori |
Athro Ôl-radd y Flwyddyn | Rebecca Jones, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth |
Athro Newydd y Flwyddyn | Matt Hayward, Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth |
Gwobr Adborth Ardderchog | Sarah Cooper, Ysgol Ieithyddiaeth ac Iaith Saesneg |
Gwobr Agored | Coleen Suckling, Ysgol Gwyddorau Biolegol |
Athro/Athrawes y Flwyddyn | Mattias Green, Ysgol Gwyddorau Eigion |
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mai 2015