Gwobrau BPS i fyfyrwyr PhD Seicoleg
Mae dwy fyfyrwraig ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg wedi ennill gwobrau a drefnwyd gan y BPS Division of Academics, Researchers and Teachers in Psychology (DART-P) ar y cyd â PsyPAG.
Ashleigh Johnstone gipiodd y wobr gyntaf, gyda Leanne Rowlands yn y trydydd safle – ill dwy yn dilyn cyrsiau PhD yn yr Ysgol.
Dywedodd yr Athro John Parkinson, Pennaeth yr Ysgol: “Llongyfarchiadau mawr i'r ddwy ar eu llwyddiant. Rydym wrth ein bodd bod ein myfyrwyr wedi ennill dwy o'r dair wobr uchaf mewn cystadleuaeth ledled Prydain am ragoriaeth addysgu PhD.â€
Fel rhan o’r rhaglen hyfforddi athrawon yn yr Ysgol Seicoleg ar gyfer myfyrwyr PhD, enillodd Ashleigh Johnstone brofiad o addysgu grwpiau bach, arsylwi athrawon profiadol, a rhoi adborth i fyfyrwyr.
Mae hi wedi darparu cefnogaeth marcio ar gyfer nifer o fodiwlau ychwanegol, rhoi darlith wadd, cynllunio seminar i'w chyflwyno i bob myfyriwr seicoleg blwyddyn gyntaf, a chyd-ddatblygu seminar datblygiad proffesiynol ar gyfer ei chyfoedion.
Dywedodd: “Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw beth yn well na helpu myfyriwr gyda rhywbeth sy’n peri trafferth iddyn nhw ac yna gweld y foment honno pan fo popeth yn clicio i’w le, neu helpu myfyriwr pryderus i deimlo'n ddigon hyderus i roi ei law i fyny yn y dosbarth a chymryd rhan mewn trafodaeth.
“Yn ystod fy nosbarthiadau, rwy'n anelu i ysbrydoli a chefnogi’r myfyrwyr i ddysgu trwy geisio eu gwneud i deimlo’n gartrefol. Mae'n anrhydedd i mi dderbyn Gwobr Addysgu PsyPAG/DART-P, ac rwy'n ddiolchgar iawn i'r staff a'r myfyrwyr a gefnogodd fy enwebiad.â€
Yn ystod ei hastudiaethau PhD, mae Leanne Rowlands wedi bod yn Hyfforddwr Graddedigion ar gyfer modiwlau Dulliau Ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg, wedi hwyluso sesiynau Galw Heibio 'Sgiliau ac Ystadegau', cyd-oruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig, cynnal darlithoedd gwadd, a dysgu niwro-anatomi trwy gyfrwng labordai ymarferol gan ddefnyddio ymennydd dynol go iawn.
Dywedodd Leanne Rowlands: “Rwyf wedi mwynhau fy mhrofiad addysgu yn fawr iawn, ac mae wedi dod â chymaint o ystyr i fy mywyd. Yn arbennig felly, rwy'n mwynhau rhyngweithio â myfyrwyr a'u gweld yn cyflawni eu hamcanion.â€
Mae'r rhaglen hyfforddi athrawon yn nodwedd unigryw o hyfforddiant doethurol yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Bangor, gyda'r rhaglen yn cael ei hachredu gan yr Academi Addysg Uwch (AAU). Ar ôl cwblhau'r rhaglen yn ddiweddar, mae Ashleigh a Leanne ill dwy wedi ennill achrediad fel Cymrodyr Cysylltiol yr AAU.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mehefin 2019