Gwirfoddolwr ChildLine yn graddio
Bydd cyn-ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Caerdydd yn graddio o Brifysgol Bangor yr wythnos hon, ar ôl manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael.
Bydd Harri Tatnell, 21 oed o Penylan, Caerdydd yn graddio gyda gradd BMedSci Gwyddorau Meddygol ar ôl tair blynedd o ymroddiad a gwaith caled.
Dywedodd Harri: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael graddio. Er fy mod wedi mwynhau fy mhrofiad fel myfyriwr ym Mangor, mae’r cyfnod wedi mynd yn llawer rhy gyflym - byddwn wrth fy modd yn ei wneud unwaith eto! Yr wyf yn teimlo'n angerddol am brofiad prifysgol a'r cyfleoedd sydd ar gael ac rwy'n credu y dylai pawb ystyried addysg uwch.
"Fel myfyriwr Cymraeg, teimlais ei bod yn bwysig astudio yng Nghymru. Roeddwn eisiau symud o gartref ac ers dod i’r diwrnod agored ym Mangor am y tro cyntaf, roeddwn wedi rhyfeddu at y lleoliad a’r cyfleoedd anhygoel.
"Yn ystod fy astudiaethau gweithiais fel Cydlynydd Campws Byw yn y neuaddau preswyl. Rôl y Cydlynydd Campws Byw a’r rhaglen Campws Byw yw sicrhau bod myfyrwyr yn mwynhau eu cyfnod yn y neuaddau a hyrwyddo cymuned breswyl gynhwysol. Yn y gwaith hwn cefais gyfle i gyfarfod a sgwrsio â chymaint o wahanol bobl. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda’r Cydlynwyr Campws Byw eraill a’r Tîm Bywyd Preswyl, ac rwyf wedi dysgu nifer o sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr.
"Er bod Bangor yn ddinas gymharol fach, mae llawer o gyfleoedd gwaith ar gael. Roeddwn yn gweithio'n rheolaidd gydag Adran Farchnata’r Brifysgol, a helpu mewn nifer o ddiwrnodau agored a theithio ledled Cymru a Lloegr i helpu gyda ffeiriau addysg uwch UCAS. Mae'r rôl hon wedi fy helpu i wella fy hyder i siarad yn gyhoeddus, yn ogystal â chwrdd â llawer o bobl newydd ac yn bwysicach na dim, eu cael nhw i ystyried mynd i'r brifysgol.
"Rwy’n falch iawn fy mod wedi gwirfoddoli fel cwnselydd ChildLine yn ystod fy nghyfnod yn y brifysgol. Mae'r profiad hwn wedi cyfoethogi fy nysgu a fy natblygiad. Mae wedi fy ngwneud yn ymwybodol o'r angen i ymddwyn yn briodol, yn effeithiol ac adeiladol mewn sefyllfaoedd penodol. Mae'n rhaid cyfleu’r gefnogaeth hon mewn ffordd gydymdeimladol ac anfeirniadol, sy’n briodol i’r oedran penodol. Mae'r profiad wedi rhoi’r gallu i mi beidio â theimlo tuedd bersonol pan fo’n briodol a hefyd i adnabod y teimladau a ddangosir gan y defnyddwyr gwasanaeth. Mae’n bwysig iawn gwrando a deall yr hyn y mae'r person ifanc yn ei ddweud. Beth bynnag a ddaw yn y dyfodol, bydd yr holl brofiadau a'r sgiliau newydd hyn yn bendant yn werthfawr iawn i mi."
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017