Gwella Iechyd Meddwl efo Ymarfer Corff
Mae myfyrwraig doethuriaeth o Brifysgol Bangor wedi bod yn edrych ar y berthynas rhwng iechyd meddwl ac ymarfer corff. Yn wreiddiol o Whitstable yng Nghaint, mae Rhi Willmot newydd gwblhau ymchwil i sut y mae ymarfer corff yn lleihau straen ac yn gwella ein lles.
Fel rhan o鈥檙 ymchwil, roedd Rhi yn edrych ar sut i ysgogi ymddygiad a ffordd o fyw iach drwy ddefnyddio seicoleg, gan edrych ar ystwythder a chymhelliant. Dywedodd,
鈥淩oedd cryn dipyn o鈥檙 dystiolaeth yn dangos fod cysylltiad cryf rhwng lles iechyd meddwl a gweithgareddau corfforol a gall hynny ddigwydd mewn sawl ffordd.
鈥淯n enghraifft yw bod gweithgareddau corfforol yn rhyddhau rhywbeth o鈥檙 enw endorffinau sef poen laddwr naturiol y corff. Pryd bynnag yr ydym yn gweithio ein cyrff yn galetach, gan gynyddu鈥檙 curiad calon ac anadlu yn fwy brwdfrydig na鈥檙 arfer, mae鈥檙 corff yn rhyddhau cemegau sy鈥檔 ein gwneud i deimlo鈥檔 dda ac yn fwy positif a gall hynny rhoi hwb i鈥檔 hwyliau yn uniongyrchol.
鈥淒aw cysylltiadau eraill rhwng ymarfer corff a lles o鈥檙 cynnydd mewn hyder felly mae hyn yn ffordd wych o roi adborth gwrthrychol i ni ar sut mae ymgymryd 芒 sialens newydd yn gallu bod yn llai dychrynllyd na mae鈥檔 ymddangos yn wreiddiol a bod modd cyflawni pethau na feddylioch chi fyddai鈥檔 bosibl.鈥
Roedd rhan o ddoethuriaeth Rhi yn cynnwys astudiaeth o parkrun UK, ymgyrch ymarfer corff hynod o boblogaidd lle mae pobl yn cyfarfod ar fore Sadwrn i redeg 5K mewn lleoliadau ledled y byd. Edrychodd Rhi ar wahanol ffactorau yn llwyddiant y parkrun. Ychwanegodd,
鈥淩oedd gennyf ddiddordeb mawr yn parkrun oherwydd mi newidiodd y berthynas oedd gan nifer o bobl efo ymarfer corff ac mae wedi ysgogi pobl na fyddai wedi rhedeg o鈥檙 blaen i drio rhyw fath o weithgaredd corfforol. Mae fy nhystiolaeth yn dangos fod hyn wedi cael effaith bositif ar eu bywydau yn ehangach gan eu bod yn teimlo gymaint yn fwy abl i ddelio 芒 straen, roeddent yn dechrau edrych ar 么l eu hunain yn well mewn ffyrdd eraill hefyd, yn cael mwy o gwsg ac yfed llai ar nos Wener! Beth oeddem yn ei weld oedd bod parkrun yn hynod o gynwysedig ac mae wedi medru darparu ar gyfer ystod eang o bobl.鈥
Gall cychwyn mewn prifysgol am y tro cyntaf fod yn gyfnod eithaf ansicr i bobl ifanc a gall hynny roi straen ar eu hiechyd meddwl, ond mae hefyd yn gyfle gwych i roi cynnig ar rhywbeth newydd a gosod sialensau newydd. Eglurodd Rhi,
鈥淩wy鈥檔 meddwl fod bod mewn prifysgol yn rhoi cyfle gwych i fod yn rhan mewn gweithgareddau corfforol ac yn ffordd dda o brofi sialensiau newydd mewn amgylchedd lle mae yna lot o gymorth ar gael.鈥
Mae Prifysgol Bangor wedi ei henwi ymysg y 10 uchaf ar gyfer 鈥淐efnogaeth i fyfyrwyr鈥 yng Ngwobrau What Uni Student Choice Awards ac mae gan y d卯m o Ymgynghorwyr Iechyd Meddwl sydd yna i gynnig cyngor a chefnogaeth ym mhob agwedd o faterion iechyd meddwl.
Yn ogystal, mae Prifysgol Bangor yn cynnig tua 200 o glybiau a chymdeithasau sydd am ddim i ymuno 芒 nhw, sy鈥檔 cynnig cyfleoedd i drio pethau newydd a gosod sialensiau newydd.
Dyma Rhi Willmot yn rhannu ei chyngor am .
Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2019