Gwella gofal canser trwy ofal sylfaenol
Mae'r ddau ohonom yn hynod o ffodus i weithio fel meddygon teulu yng ngogledd Cymru ac fel ymchwilwyr yng , lle'r ydym yn arwain projectau ymchwil i wella gofal canser yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cydweithio'n agos â meddygon a nyrsys mewn meddygfeydd teulu ac yn ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar raglen waith o'r enw "Diagnose Quickly, Follow Up Safely". Cawn ein hysbrydoli'n barhaol yn ein gwaith gan ein cysylltiad â chleifion yn ein meddygfeydd. Mae ein holl waith yn canolbwyntio ar ddylanwadu ar ymarfer clinigol neu bolisïau sy'n ymwneud â chanser.
Mae pob math o bobl yn gofyn i ni pam ein bod ni, fel meddygon teulu, yn ymhél ag ymchwil canser. Dyma’r atebion:
- Bydd dros 90% o bobl fydd yn cael diagnosis o ganser yn mynd i weld eu meddyg teulu gyda'r symptomau cyn cael diagnosis.
- Mae meddygon teulu yn ymwneud llawer â rhaglenni sgrinio am rai mathau penodol o ganser.
- Mae meddygon teulu yn y sefyllfa unigryw o adnabod eu cleifion a'u teuluoedd yn dda iawn, ac felly maent yn gallu cynorthwyo cleifion yn y cyfnod cyn iddynt gael diagnosis nes bydd y driniaeth yn dechrau.
- Mae meddygon teulu yn arbenigwyr ym maes rheoli cyflyrau cronig, ac ystyrir canser fwyfwy fel cyflwr cronig.
Dyma ddwy enghraifft o'r math o ymchwil rydym yn ei wneud:
Y cyntaf yw ‘Prostate Cancer – Re-design the follow-up system’. Mae canser y brostad yn gymharol gyffredin, er y bydd mwyafrif y dynion fydd yn dioddef ohono yn byw yn hir iawn gyda'r cyflwr neu'n byw yn hir iawn ar ôl dioddef o'r cyflwr. Caiff dynion efallai lawdriniaeth, radiotherapi, triniaeth hormonau neu eu monitro trwy brofion gwaed yn unig (PSA). Beth bynnag fydd yn digwydd, mae gan gleifion sy'n dioddef o ganser y brostad nifer fawr o anghenion nad ydynt yn cael eu diwallu gan y gofal dilynol sydd ar gael. Mae clinigau dilynol mewn ysbytai yn rhy brysur. Mae dynion yn debygol o gael gofal gan eu meddyg teulu a staff y feddygfa ar ôl iddynt gael eu rhyddhau o'r ysbyty ond mae meddygon teulu angen mwy o wybodaeth a hyfforddiant a mwy o staff er mwyn gallu rhoi'r gofal gorau i'r dynion ac ymdrin â'u hamrywiol broblemau yn effeithiol. Mae hefyd angen trefn benodol i fonitro PSA yn y tymor hir. Mae monitro PSA yn amrywio yn ôl union glefyd y dynion a'r union driniaeth a gawsant. Nid yw'r systemau i wneud hyn yn effeithlon ar hyn o bryd a gallai hynny arwain at gamgymeriadau. Nod y project hwn, felly, yw ceisio sicrhau bod dynion yn cael gofal dilynol sy'n seiliedig ar ofal sylfaenol. Rydym wrthi'n recriwtio dynion i gymryd rhan mewn treial ar hap sy'n seiliedig ar ymyriad nyrsio (asesu a chynllunio anghenion yn fanwl) o'i gymharu â gofal arferol, ac rydym yn datblygu system fonitro awtomataidd i brofion PSA.
Yr ail yw'r treial ‘Early Lung Cancer Investigation and Diagnosis’. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio cleifion sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu canser yr ysgyfaint ac sy'n dod i weld eu meddyg teulu naill ai oherwydd eu bod yn pesychu neu oherwydd eu bod yn colli eu gwynt. Os yw cleifion yn cytuno cymryd rhan, cânt naill ai sgan pelydr-x ar y frest ar unwaith neu 'ofal arferol' sydd efallai'n cynnwys sgan pelydr-x ar y frest os yw'r symptomau'n parhau am dair wythnos neu fwy. Rydym eisiau gwybod a all profion cynharach ganfod canser yr ysgyfaint pan mae'n haws ei drin.
Mae gennym brojectau eraill ar y gweill ac rydym yn ystyried barn cleifion a defnyddwyr wrth gynllunio astudiaethau newydd bob amser.
Richard Neal, Athro Meddygaeth Gofal Sylfaenol, Clare Wilkinson, Athro Ymarfer Meddygol, Canolfan Ymchwil Gofal Sylfaenol Gogledd Cymru, Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad, Prifysgol Bangor.
Ymddangosodd yr erthygl yma fel colofn University View y Western Mail 13.2.14
Hefyd yn ddiweddar : Cleifion gyda chanser y geg a chanser yr oesoffagws yn oedi mwy cyn mynd i weld eu meddyg teulu
A
Cleifion canser yn derbyn diagnosis cynt
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2015